Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 大象传媒: rhannwch y straeon sy鈥檔 bwysig i chi

Disgrifiad o'r fideo, Huw Edwards: Manteisiwch ar y cyfle

Mae'r 大象传媒 yn chwilio am bobl ifanc rhwng 11-18 oed sydd eisiau rhannu stori neu dynnu sylw at bwnc llosg sy'n bwysig yn eu bywydau neu'r byd o'u cwmpas. Os oes gennych chi stori i'w rhannu, yna rhowch gynnig ar Gystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 大象传媒.

Gall fod yn stori sy'n berthnasol i'ch bywyd chi, i fywyd eich teulu a ffrindiau, neu rywbeth sy'n effeithio ar y byd ehangach - dim ond bod eich profiad neu eich ffordd chi o gyflwyno'r stori yn cynnig persbectif unigryw.

Mae Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 大象传媒 yn gyfle unigryw i bobl ifanc fel chi rannu eu stori ar deledu, ar radio, ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol gyda help newyddiadurwyr a chynhyrchwyr y 大象传媒.

Mae'r gystadleuaeth bellach wedi cau (ers 23:59 ar ddydd Sadwrn 26 Hydref) felly nid yw'n bosib cyflwyno cais. Bydd y straeon llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi a'u darlledu ym mis Mawrth 2020.

Bydd y straeon mwyaf diddorol a gwreiddiol yn cael eu cyflwyno i banel o gyflwynwyr, gohebwyr, uwch-olygyddion a chynhyrchwyr sy'n gweithio ar raglenni a llwyfannau fel 大象传媒 Cymru Fyw, The One Show, 大象传媒 Wales Today a Newyddion S4C.

Byddant yn dewis y straeon mwyaf unigryw a phwerus. Bydd y straeon yma yn cael eu cynhyrchu gyda'r ymgeiswyr buddugol ac yn cael eu darlledu gan y 大象传媒 naill ai ar deledu, radio, ar-lein neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd enillwyr cenedlaethol a rhanbarthol hefyd, felly mae digon o gyfle i chi sicrhau bod eich stori yn cael ei chlywed!

SUT I GYSTADLU

I gystadlu, DEFNYDDIWCH Y FFURFLEN HON i anfon crynodeb o'ch stori - gallwch ysgrifennu, recordio neu ffilmio eich hun yn cyflwyno'r stori. Peidiwch 芒 phoeni gormod am steil neu fformat yn ystod y cam yma - dydyn ni ddim eisiau'r stori orffenedig, dim ond crynodeb o'r cynnwys.

Mae dau gategori - Fy Mywyd ac Ein Byd; a dau gr诺p oedran - 11-15 oed ac 16-18 oed. Gallwch gystadlu mewn un categori yn unig.

"Fy Mywyd": stori bersonol wreiddiol amdanoch chi neu rywun ry'ch chi'n ei adnabod (bydd rhaid sicrhau caniat芒d). Ni ddylai'r stori fod wedi cael sylw eang o'r blaen. Dangoswch sut byddech chi'n cyflwyno cyd-destun ehangach y stori gan gofio pwyso a mesur unrhyw safbwyntiau. Os yw'n berthnasol, dangoswch sut gall eich stori hybu ymwybyddiaeth ehangach a pham fod hyn yn bwysig i chi.

"Ein Byd": stori wreiddiol am bwnc sy'n berthnasol i'r byd heddiw. Ni ddylai'r syniad fod wedi cael sylw eang o'r blaen, neu fe ddylai gynnig persbectif unigryw person ifanc ar y pwnc. Does dim angen i'r stori fod am eich bywyd chi neu am unrhyw un sy'n rhan o'ch byd chi, ond mae'n rhaid dangos sut bydd y stori yn cynnig safbwynt newydd neu wahanol am y pwnc, a pham bod eich safbwynt chi o rannu'r stori yn unigryw.

Bydd pob stori sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwirio cyn y rownd derfynol i wneud yn si诺r eu bod nhw'n ffeithiol gywir ac yn gadarn yn gyfreithiol. Cofiwch wneud hynny!

Rhaid cael caniat芒d rhiant cyn cymryd rhan, ac os yw'r stori am bwnc sensitif, fel eich iechyd, eich crefydd neu eich rhywioldeb, yna fe ddylai eich rhiant/gwarchodwr anfon e-bost atom CYN i chi gofrestru yn youngreportercompetition@bbc.co.uk er mwyn i ni gynnig y cyngor a'r cymorth perthnasol.

Bydd y straeon yn cael eu beirniadu ar sail eu cryfder golygyddol - sef cryfder stori, gwreiddioldeb, a'r stori neu gefndir personol o'i chwmpas. Bydd y beirniaid yn chwilio am amrywiaeth o straeon amrywiol o bob cwr o'r DU.

CYNGOR AR GYFER CYSTADLU

Cofiwch ein bod ni'n chwilio am straeon personol pwerus a chryf yn gysylltiedig 芒 phynciau nad ydynt yn cael eu darlledu fel rheol ar y 大象传媒. Rhaid iddyn nhw fod yn wir.

Mae'n rhaid i'r stori fod yn wreiddiol ac am brofiad neu gipolwg personol i chi sydd heb gael sylw eang o'r blaen. Dylai adlewyrchu bywyd y cyfrannwr neu ei ffrindiau a/neu deulu. Dylech nodi pam eich bod yn credu y bydd eich stori yn cynnig persbectif unigryw, yn ogystal 芒 nodi sut byddech yn ehangu eich adroddiad i edrych ar faterion eraill sy'n gysylltiedig 芒'r pwnc.

Bydd rhaid i bob cais ateb y cwestiwn canlynol: Pam eich bod am rannu eich stori, a beth fyddai'n ei olygu i chi gael rhannu eich stori? Pwrpas hyn yw rhoi ychydig o gefndir i ni pam eich bod eisiau rhannu eich stori a beth mae'n ei olygu i chi - pam ei bod yn berthnasol i chi a'ch bywyd?

Cofiwch nad ydym angen y stori orffenedig, dim ond crynodeb - felly peidiwch 芒 phoeni gormod am y ffordd mae'n cael ei hysgrifennu neu ei recordio.

Dyma ychydig o straeon o gystadleuaeth y llynedd i'ch ysbrydoli:

Ar ol i'w mam gael diagnosis o ganser y fron, roedd Eve eisiau codi ymwybyddiaeth merched ifanc o bwysigrwydd archwilio eu bronnau am unrhyw symptomau. Dyma ei hadroddiad i Cymru Fyw.

Roedd stori Tayla yn edrych ar roi organau ar 么l marwolaeth ei mam, a sylweddoli ei bod wedi helpu pobl eraill drwy roi ei horganau. Cafodd y stori ei chynnwys ar a 大象传媒 5 Live.

Roedd stori Rhys yn ymwneud 芒'i hoffter o focsio a sut mae wedi sicrhau nad yw ei anabledd yn ei rwystro rhag cymryd rhan. Cafodd ei adroddiad ei gynnwys ar 大象传媒 Breakfast.

Fel adroddiad i 大象传媒 Newsbeat, roedd Tia wedi cyfweld 芒'i mam oedd yn gaeth i gyffuriau.

Gallwch weld a chlywed straeon cystadleuwyr y llynedd yma.