Yr Urdd gwerth 拢25.5m i economi Cymru yn 2017-18
- Cyhoeddwyd
Roedd mudiad Urdd Gobaith Cymru yn werth 拢25.5m i'r economi yn y flwyddyn 2017-18, yn 么l adroddiad newydd.
Yn 么l yr adroddiad, mae disgwyl y bydd yr effaith economaidd yn tyfu i 拢27.8m yn 2018-19, ac ymhellach i tua 拢31m erbyn 2019-20.
Bydd yr adroddiad gan Ymchwil Arad, gafodd ei gomisiynu gan yr Urdd, yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn y Cynulliad ddydd Iau.
Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis eu bod yn "falch iawn o'r ffigyrau".
Yn 么l yr adroddiad fe wnaeth dros 46,000 o bobl a phlant aros yng ngwersylloedd yr Urdd yn y flwyddyn 2017-18 - 21,599 yn Llangrannog, 13,499 yng Nglan-llyn ac 11,020 yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth y mudiad gyhoeddi fis diwethaf eu bod yn bwriadu bwrw 'mlaen gyda chynllun datblygu 拢5.5m yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn.
Gwerth canghennau'r Urdd i'r economi
Eisteddfodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol - 拢11.5m
Gweithgareddau chwaraeon - 拢2.6m
Gwersylloedd - 拢6.9m (Llangrannog - 拢3.1m; Glan-llyn - 拢2m; Caerdydd - 拢1.8m)
"Gyda mwy na 300 o staff, yr Urdd yw'r cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru," meddai Ms Lewis.
"Amcan yr Urdd yw darparu profiadau a gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn rhagori ar ein hamcanion.
"Rwy'n credu'n wirioneddol yn ein gallu i greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru.
"Yn Llangrannog a'r Bala, rydym wedi dod yn rhan bwysig o'r economi leol a'n huchelgais yw cael effaith gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018