大象传媒

AC Llafur yn ymddiheuro am sylwadau 'gwrth-semitaidd'

  • Cyhoeddwyd
Jenny Rathbone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jenny Rathbone wedi ymddiheuro am sylwadau "ansensitif" a wnaeth am bryderon y gymuned Iddewig yng Nghaerdydd

Mae AC Llafur wedi dweud ei bod "yn wirioneddol flin" am awgrymu bod pryderon Iddewon yng Nghaerdydd am eu diogelwch wedi eu "creu yn eu pennau".

Cafodd papur y Jewish Chronicle afael ar recordiad o Jenny Rathbone yn gwneud y sylwadau mewn sesiwn holi ac ateb yng Nghaerdydd y llynedd.

Mae arweinwyr Iddewig wedi dweud bod y sylwadau'n "anfaddeuol".

Fe wnaeth Ms Rathbone gydnabod bod ei sylwadau'n "ansensitif" ac "annerbyniol", ac mae hi wedi trefnu mynychu sesiynau ar gydraddoldeb.

Sylwadau ar d芒p

Wrth ymateb i gwestiwn am fesurau diogelwch ychwanegol yn synagog Cyncoed, dywedodd Ms Rathbone: "Dwi'n meddwl ei fod ynghlwm 芒'r methiant i gyrraedd cytundeb heddychlon rhwng Palestina ac Israel.

"Dwi'n meddwl bod ymddygiad Llywodraeth Israel wrth feddiannu tiroedd Palestina [sain aneglur] ac ymddwyn fel gorchfygwr yn gyffredinol yn ffafriol i heddwch.

"A dwi'n meddwl mai dyna sy'n arwain pobl i fod yn elyniaethus tuag at y gymuned Iddewig yn y wlad yma."

Dywedodd hefyd: "Mae'r ffaith fod y synagog Iddewig yng Nghyncoed yn [sain aneglur] gaer yn syniad anghysurus iawn.

"Mae faint ohono sy'n angenrheidiol a faint ohono sydd wedi cael ei chwyddo a'i greu yn eu pennau yn anodd ei feirniadu gan rywun o'r tu allan, ond dwi'n meddwl bod y meddylfryd o fod dan warchae yn rhan ohono."

Ymddiheuriad

Wrth ymddiheuro ddydd Mercher, dywedodd Ms Rathbone: "Rwy'n derbyn bod sylwadau a wnes i llynedd yn ansensitif ac wedi fy ngwneud yn agored i gyhuddiadau fy mod yn anoddefgar.

"Rwyf wedi gwerthfawrogi'r berthynas dda sydd gennyf gyda'm cymuned Iddewig leol, ac yn ymddiheuro am unrhyw ddrwgdeimlad gafodd ei achosi i etholwyr unigol a'r gymuned Iddewig ehangach gan fy sylwadau.

"Gyda lefelau o wrth-semitiaeth ar gynnydd mewn nifer o wledydd gorllewinol, ac yn dilyn yr ymosodiad difrifol ar synagog Pittsburgh, ni ddylai neb fychanu'r ofnau a phryderon mae nifer o Iddewon yn eu profi.

"Dyw hi ddim chwaith yn dderbyniol i awgrymu bod y gymuned Iddewig yn gyfrifol am weithredoedd Llywodraeth Israel."

Dywedodd Stanley Soffa, cadeirydd Cynrychiolwyr Iddewig De Cymru bod Ms Rathbone wedi mynychu synagogau yng Nghaerdydd a "derbyn croeso cynnes".

"Mae hi'n adnabod aelodau o'r ddwy gymuned, ond dydw i dal ddim yn synnu i'w chlywed yn gwneud sylwadau o'r fath, ac maen nhw'n ffeithiol anghywir.

"Dydw i ddim yn synnu oherwydd mae nifer o'r sylwadau mae hi wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd wedi cael eu hystyried yn wrth-semitaidd.

"Dyma'r fath o beth sy'n dod ag anfri i'r blaid Lafur ac yn amlygu'r celwydd nad yw gwrth-semitiaeth yn rhemp o fewn y blaid."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Vaughan Gething mae honni nad yw gwrth-semitiaeth yn broblem "yn bychanu a gwadu profiadau go iawn pobl"

Dywedodd Vaughan Gething, un o'r ymgeiswyr yn ras arweinyddol Llafur Cymru: "Mae honni nad yw gwrth-semitiaeth yn broblem yn bychanu ac yn gwadu profiadau go iawn pobl, sydd 芒'r hawl i ddisgwyl llawer mwy o'r Blaid Lafur.

"Dydw i ddim yn cytuno gyda sylwadau Jenny Rathbone.

"Dydw i ddim yn credu fod mesurau diogelwch ychwanegol o amgylch synagogau yn deillio o 'feddylfryd o fod dan warchae'."

Ychwanegodd un arall o'r ymgeiswyr, Mark Drakeford: "Mae gwrth-semitiaeth yn hollol annerbyniol a does dim lle iddo o gwbl yn y blaid Lafur.

"Roedd sylwadau Jenny Rathbone yn annerbyniol. Mae'n iawn ei bod hi wedi cael ei chyfeirio at y blaid Lafur am ymchwiliad."

'Problem i Carwyn Jones'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros ffydd, Mohammad Asghar, bod y sylwadau yn "ddifeddwl ac yn anwybodus, ac yn diystyru'r bygythiad mae'r gymuned Iddewig wedi ei wynebu".

"Mae'n ymddangos fod y don frawychus o wrth-semitiaeth wedi cyrraedd Cymru, ac nad yw bellach yn broblem i Jeremy Corbyn yn unig, ond mae'n broblem i Carwyn Jones a'i olynydd hefyd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran gr诺p y blaid Lafur yn y Cynulliad: "Mae'r sylwadau hyn yn hollol annerbyniol, ac maen nhw wedi cael eu pasio 'mlaen at Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur er mwyn cynnal ymchwiliad.

"Bydd y Brif Chwip nawr yn ystyried pa gamau disgyblu sydd ar gael i'r Gr诺p Llafur, ac fe fydd yn cyflwyno'r mater i'r cyfarfod nesaf ddydd Mawrth."