大象传媒

Cymru'n gwneud 14 newid i'r t卯m fydd yn wynebu Tonga

  • Cyhoeddwyd
Jonah HolmesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Jonah Holmes yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ddydd Sadwrn

Mae Cymru wedi gwneud 14 newid i'r t卯m i wynebu Tonga ddydd Sadwrn - gyda Dan Biggar a Liam Williams ymysg y rhai sy'n dychwelyd.

Bydd asgellwr Caerl欧r, Jonah Holmes, yn ennill ei gap cyntaf yn safle'r cefnwr, gyda'r clo Adam Beard yr unig un i gadw'i le o'r t卯m oedd yn fuddugol yn erbyn Awstralia wythnos diwethaf.

Mae'r blaenasgellwr ifanc Aaron Wainwright yn dechrau yn y rheng-么l, wrth ochr Seb Davies ac Ellis Jenkins, sy'n gapten.

Bydd Liam Williams, sy'n cychwyn ar yr asgell, yn ennill cap rhif 50.

Yn y rheng-flaen, bydd prop y Scarlets, Wyn Jones, yn dechrau g锚m ryngwladol am y tro cyntaf.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Welsh Rugby Union 馃弶

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Welsh Rugby Union 馃弶

Dydy Cymru erioed wedi colli yn erbyn Tonga, a bydd y garfan yn hyderus o adeiladu ar fuddugoliaethau yn erbyn Yr Alban ac Awstralia yng Nghyfres yr Hydref eleni.

Os fydd Cymru'n ennill yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, byddan nhw'n sicrhau wythfed fuddugoliaeth yn olynol.

T卯m Cymru i herio Tonga

Jonah Holmes; Liam Williams, Tyler Morgan, Owen Watkin, Steff Evans; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Elliot Dee, Leon Brown, Jake Ball, Adam Beard, Aaron Wainwright, Ellis Jenkins (c), Seb Davies.

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Tomas Francis, Cory Hill, Ross Moriarty, Aled Davies, Rhys Patchell, Josh Adams.