大象传媒

System plant mewn gofal 'dan straen aruthrol' medd ACau

  • Cyhoeddwyd
Plentyn

Mae gr诺p o ACau wedi dweud nad ydyn nhw wedi'u hargyhoeddi fod arian yn cael ei wario yn y ffyrdd cywir i gynorthwyo plant mewn gofal i gyrraedd eu potensial.

Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod plant yn cael eu gadael i lawr.

Mae'r gost, medden nhw, yn rhy uchel ar gyfer system sy'n darparu canlyniadau gwael yn ariannol ac ar gyfer bywydau'r plant sydd mewn gofal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i roi'r gofal gorau posibl i blant a phobl ifanc.

Gwerth am arian

Mae 5,955 plentyn mewn gofal yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn dweud ei bod hi'n anodd iddyn nhw gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amserol a chefnogaeth therapiwtig.

Ychwanegodd bod diffyg cysondeb yn broblem i bobl ifanc mewn gofal, yn enwedig y nifer sy'n cael eu hail-leoli ac sy'n cael nifer o weithwyr cymdeithasol gwahanol.

Dywedodd un person ifanc wrth y pwyllgor: "Rwyf wedi nodi'r niferoedd o weithwyr cymdeithasol dwi wedi'i gael. Yn y 12 mlynedd pan oeddwn i yn y system gofal, fe gefais tua 40."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nick Ramsay AC yw cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Mae'r pwyllgor yn dweud fod pobl ifanc wedi dweud wrthyn nhw am yr effaith andwyol o orfod symud a chael rhieni maeth newydd.

Yn 么l yr adroddiad mae prinder o lefydd gofal wedi gorfodi awdurdodau lleol i "chwilio'n enbyd" am leoliadau a chymryd beth sydd ar gael yn hytrach na beth sy'n cyrraedd gofynion y plentyn.

Dywedodd nad yw'n darparu gwerth am arian ac nad dyma'r peth gorau i'r plant.

Ar gyfartaledd mae'n costio 拢23,327 y flwyddyn osod plentyn mewn gofal gydag awdurdod lleol, tra bod gofal annibynnol yn costio 拢43,378.

Mae ACau yn dweud eu bod yn cefnogi rhoi mwy o arian i wasanaethau o safon uwch er mwyn rhoi'r gefnogaeth orau yn y dyddiau cynnar.

Fe allai'r gwasanaethau hynny ostwng yr angen am wasanaethau drytach yn y dyfodol, fel ymdrin 芒 sefyllfaoedd iechyd meddwl neu dorcyfraith.

'Straen aruthrol'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay AC, ei bod hi'n hanfodol i blant dderbyn gofal safon uchel sydd wedi'i deilwra i'w gofynion.

"Er bod nifer o bobl broffesiynol yn ymroddedig ac yn cynnig gwasanaethau o'r safon uchaf dan amgylchiadau anodd, mae hi hefyd yn amlwg fod gwasanaethau ar gyfer gofal plant dan straen aruthrol ac yn wynebu heriau gwirioneddol," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu'r adroddiad ac y bydden nhw'n ymateb yn y man, gan ychwanegu eu bod wedi cyhoeddi y bydd 拢15m yn cael ei fuddsoddi'r flwyddyn nesaf i arbed plant thag gorfod mynd fewn i'r system gofal, ac i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn gofal.