大象传媒

Nigel Owens yn canmol dewrder Gareth Thomas wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Nigel Owens a Gareth ThomasFfynhonnell y llun, 大象传媒/GETTY IMAGES
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Nigel Owens fod Gareth Thomas wedi cymryd cam dewr

Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi canmol ymddygiad y cyn-chwaraewr Gareth Thomas am ei "ddewrder" ar 么l ymosodiad arno oherwydd ei rywioldeb.

Fe wnaeth llanc 16 oed ymosod ar gyn-gapten Cymru a'r Llewod yng nghanol Caerdydd nos Sadwrn.

Gofynnodd Thomas am ddefnyddio cyfiawnder adferol - sy'n golygu na fydd y bachgen yn cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd

Dywedodd Nigel Owens, sydd hefyd yn hoyw, iddo wneud dewis tebyg yn 2015 pan dderbyniodd sylwadau sarhaus ar Twitter.

"Fe wnes i dderbyn sylw homoffobaidd, sylw cas, ar y cyfryngau cymdeithasol ar 么l y g锚m wnes i ddyfarnu rhwng Lloegr a Ffrainc dair blynedd yn 么l," meddai Mr Owens wrth 大象传媒 Radio Wales.

"'Chydig o ddyddiau wedyn fe ges i neges Facebook gan y bachgen ifanc 'ma yn ymddiheuro a dweud ei fod yn feddw ar y pryd - dydy hynny ddim yn esgus ond roedd e'n ymddiheuro'n fawr.

"Roedd yna opsiwn y byddai'r heddlu wedi gallu erlyn ac yna fe fyddai gan y bachgen record droseddol, a fyddai wedi aros gydag ef am weddill ei fywyd, neu fe allwn ddelio'r gyda'r peth yn y modd mae Gareth yn ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Datgelodd Gareth Thomas ei fod yn hoyw yn 2009

Fe wnaeth Owens benderfynu cwrdd ag Edryd James, 18 oed o Gynwyl Elfed, yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin.

Dywedodd wrtho y gallai sylwadau o'r fath achosi cryn loes i rai pobl.

Fe wnaeth Thomas hefyd benderfynu gofyn am gyfiawnder adferol.

Does dim s么n wedi bod yngl欧n ag a fydd y cyn-chwaraewr yn cwrdd 芒'r bachgen yn bersonol, neu'n derbyn ymddiheuriad drwy lythyr neu alwad ff么n.

Troseddau casineb

Dywedodd Owens ei fod wedi cael ychydig o syndod fod rhywun wedi ymosod ar Thomas ond ychwanegodd "weithiau mae angen i rywbeth fel hyn ddigwydd i rywun fel Gareth sydd 芒 phroffil uchel er mwyn gwneud gwahaniaeth".

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, John Drake nad oedd yn fodlon trafod achos Thomas yn benodol ond dywedodd fod cyfiawnder adferfol yn "gyfle real i droseddwyr glywed yn uniongyrchol am effaith eu hymddygiad ar unigolyn".

Yn 么l Andrew White, cyfarwyddwr Stonewall Cymru, dyw ymosodiadau fel hyn "yn anffodus ddim yn syndod".

"Mae un o bob pedwar o bobl LGBT yng Nghymru wedi cael profiad o drosedd casineb yn y 12 mis diwethaf yn 么l gwaith ymchwil diweddar," meddai.