Amheuaeth am ddyfodol cynllun Archif Ddarlledu
- Cyhoeddwyd
Mae amheuaeth a fydd cynllun am Archif Ddarlledu Genedlaethol yn Aberystwyth yn parhau wedi i Lywodraeth Cymru dynnu cefnogaeth i'r prosiect yn 么l.
Roedd y ganolfan gwerth 拢9m yn y Llyfrgell Genedlaethol i fod i ddod yn gartref i 160,000 o recordiadau o archif raglenni 大象传媒 Cymru.
Ond mewn llythyr ddaeth i law newyddion 大象传媒 Cymru, dywedodd y gweinidog diwylliant Arglwydd Elis-Thomas ei fod "yn amharod i ymrwymo i'r 拢1m o gyllid cyfalaf y gofynnwyd amdano" ar gyfer y cynllun yn ei ffurf bresennol.
Doedd y gweinidog ddim yn fodlon rhoi cymorth strategol i'r Archif chwaith.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn "siomedig iawn" gyda'r penderfyniad, ac mae Plaid Cymru wedi disgrifio'r sefyllfa fel "cwbl warthus".
Er bod cytundeb mewn egwyddor i roi 拢5m o arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri tuag at y cynllun, nid oes cais ffurfiol am yr arian eto wedi ei gyflwyno gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Dywed llefarydd ar ran 大象传媒 Cymru: "Mae 大象传媒 Cymru yn siomedig na fydd y prosiect yn digwydd yn ei ffurf bresennol."
Tri lleoliad arall
Er mai rhaglenni 大象传媒 Cymru fyddai mwyafrif cynnwys yr archif arfaethedig, roedd hefyd disgwyl iddi gynnwys deunydd o raglenni S4C ac ITV Cymru.
Byddai'r cynllun yn caniat谩u i archif presennol 大象传媒 Cymru gael ei gadw pan fydd y darlledwr yn gadael ei bencadlys presennol yng Nghaerdydd, ac fe fyddai'r cyhoedd yn medru gweld y deunydd yn ddigidol mewn canolfannau gwylio arbennig yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam.
Fe fyddai digwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn ymwneud 芒'r archif hefyd yn cael eu trefnu yn y pedwar canolfan.
Yn ei lythyr at lywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, pwysleisiodd Arglwydd Elis-Thomas ei fod am fynegi yn glir ei anfodlonrwydd cyn cyfarfod ag ymddiriedolwyr y llyfrgell ddydd Gwener pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am y cynllun.
Dywedodd: "Yn seiliedig ar gynllun y prosiect ac ar yr amcangyfrifon ariannol, rwy'n parhau i fod yn amharod i ymrwymo i'r 拢1m o gyllid cyfalaf y gofynnwyd amdano, nac i roi cymorth strategol i'r Archif Ddarlledu Genedlaethol yn ei ffurf bresennol."
Nododd ei fod wedi gofyn yn flaenorol am "adolygiad ac ail-lunio trylwyr" o'r cynllun, ond nad oedd hyn wedi digwydd. Ychwanegodd fod angen cymryd camau er mwyn sicrhau "na fyddai'r Archif Ddarlledu Genedlaethol yn peryglu sefydlogrwydd ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol".
Roedd y gweinidog yn derbyn fod rhai trafodaethau wedi digwydd rhwng y llyfrgell, y 大象传媒 a phart茂on eraill yngl欧n 芒 chynaliadwyedd tymor hir y cynllun, roedd yn "siomedig" fod y gwaith yna wedi ei wneud mor hwyr yn y broses.
Ychwanegodd fod y wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan y llyfrgell yn ei gwneud yn "glir bod rhai o weithgareddau presennol y llyfrgell yn debygol o gael eu heffeithio'n negyddol" gan y cynllun.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Yn amlwg rydym yn siomedig iawn gyda phenderfyniad y gweinidog. Roedd y prosiect yn sicrhau dyfodol archif ffilm a sain allweddol o Gymru yn yr 20fed ganrif yn cynnwys newyddion, digwyddiadau hanesyddol arwyddocaol megis trychineb Aberfan a chofnod chwaraeon y cyfnod.
"Yn ogystal, roedd rhaglen gyffrous wedi'i baratoi i roi mynediad cyhoeddus mewn pedwar o ganolfannau digidol ar draws Cymru.
"Bydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn trafod penderfyniad y gweinidog yn ei gyfarfod dydd Gwener cyn ymateb ymhellach."
'Cwbl warthus'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Dr Dai Lloyd AC: "Mae'r sefyllfa'n gwbl warthus. Rydym yn wynebu colli a dinistrio archif hynod werthfawr sy'n ffurfio rhan amhrisiadwy o etifeddiaeth ddiwylliannol ein cenedl oherwydd amharodrwydd y gweinidog i gefnogi'r cynllun.
"Mae penderfyniad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - y gweinidog sydd yn gyfrifol am ddiwylliant a threftadaeth, i wrthod ymrwymo unrhyw gyllid neu gymorth strategol i'r Archif Ddarlledu Genedlaethol, yn gwbl annerbyniol. Mae'n bradychu ei ddyletswyddau fel gweinidog ac yn rhoi'r prosiect cyfan yn y fantol.
"Rwy'n gofyn i'r gweinidog ail-ystyried ei benderfyniad a byddaf yn codi'r mater gydag ef ar lawr y Senedd fel mater o fyrder wythnos nesaf."
Ychwanegodd y llefarydd ar ran 大象传媒 Cymru: "Fe fyddai'r prosiect hwn wedi sicrhau fod ein harchif radio a theledu eang wedi ei rhoi yn anrheg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i bawb gael ei harchwilio a'i mwynhau.
"Yn gyfoeth o gynnwys yr ugeinfed ganrif, fe fyddai'r casgliad hynod yma wedi bod ar gael mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth yn ogystal 芒 thri safle arall ar draws Cymru yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2017
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013