´óÏó´«Ã½

'Natur yn diflannu o flaen ein llygaid heb i ni sylwi'

  • Cyhoeddwyd

Wrth i raglen natur ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, Galwad Cynnar, gyrraedd carreg filltir arbennig, mae un o'r panelwyr wedi gweld newidiadau mawr ym myd natur ei gynefin ers i'r rhaglen gyntaf gael ei darlledu ar nôl yn 1993.

Pan mae Duncan Brown yn mynd ar daith hir yn y car, mae ffenestr blaen glân yn arwydd drwg.

Ydi, mae'n haws gweld drwy'r gwydr, ond mae hefyd yn atgyfnerthu canlyniadau ei waith ymchwil sy'n profi bod un rhan o fyd natur yn ei filltir sgwâr ar ei cholled.

Ffynhonnell y llun, Dan Kitwood

Oherwydd bob wythnos, ers dros 20 mlynedd, mae'n dal, cyfri' a chofnodi gwyfynod mewn trap golau yn ei ardd gefn.

"Tydi nifer y rhywogaethau dwi'n eu gweld heb leihau llawer, yr un rhai sy'n cael eu dal," meddai'r gŵr o Waunfawr, ger Caernarfon.

"Ond mae'r niferoedd dwi'n eu dal yn llawer llai. Rhwng heddiw a 1996, pan nes i ddechrau, mae'r niferoedd wedi haneru, ond tydi pobol ddim yn sylweddoli hynny - mae'r gwyfynod allan yn y nos, ac mae'n digwydd fesul dipyn.

"Ond fydd pobol fy oed i yn cofio hyn - pan oedd rhywun yn mynd ar daith ers talwm roedd gwyfynod a phryfaid yn mynd splat ar windscreen y ceir yn rheolaidd.

"Roedd rhywun yn gorfod glanhau'r ffenestr yn rheolaidd - ond pa mor aml yda ni'n gorfod gwneud hyn rŵan?

"Roedd y pryfaid yn mynd i mewn i'r radiator a bob dim a rhywun yn gorfod eu glanhau, ond tydi hynny ddim yn digwydd y dyddiau yma."

Ffynhonnell y llun, Duncan Brown
Disgrifiad o’r llun,

Duncan Brown yn edrych pa 'drysorau' gafodd eu dal dros nos

Ers blynyddoedd, mae Duncan Brown wedi bod yn codi cyn cŵn Caer ar foreau Sadwrn fel un o banelwyr cyson rhaglen Galwad Cynnar Radio Cymru.

Mae'r rhaglen natur yn dathlu ei phen-blwydd yn chwarter canrif eleni, ac mae cyfrol yn nodi'r achlysur newydd ei chyhoeddi.

A dros yr un cyfnod mae'r naturiaethwr wedi gweld newid mewn mwy na dim ond gwyfynod.

Cael ei suo i gysgu gan y gylfinir

Dywed bod newidiadau mewn amaethyddiaeth, hinsawdd, a'r defnydd o dir i gyd wedi effeithio ar adar fel y gylfinir.

Meddai: "Mae'r adar yma wedi cael eu heffeithio'n enbyd. Ydi, mae rhywun yn eu gweld nhw, maen nhw ar Y Foryd (ger Caernarfon) er enghraifft, ond rhai estron o Ewrop ydi'r rheiny.

"Mae rhai dal o gwmpas, ond dwi'n cofio cael fy suo i gysgu i gân y gylfinir pan oeddwn i'n hogyn bach."

Ffynhonnell y llun, Avalon

Mae'n sefyllfa gymhleth, meddai, gan bod mwy o ddiddordeb yn yr amgylchedd heddiw - a rhai rhywogaethau wedi cynyddu.

"Yn arwynebol 'da ni'n ennill cymaint ag yda ni'n colli - os nad mwy. Dros gyfnod Galwad Cynnar mi ryda ni wedi ennill yr hwyaden ddanheddog, doedd o ddim yn nythu o gwbl yma.

"A'r barcud coch… roedd y barcud yn stryglo o ddifri ym Mhrydain tan ddechrau'r 1990au.

Ffynhonnell y llun, ullstein bild

'Cute and cuddly'

"Ond mae'n sefyllfa wahanol gyda rhywogaethau sexy fel yna, ac adar fel y gornchwiglen, er enghraifft, lle mae'r RSPB yn buddsoddi lot o adnoddau i ennill rhyw ychydig barau yma a thraw - ac maen nhw wedi gwneud yn dda iawn.

"Mae r'un fath efo'r wiwer goch - mae'r pethau sy'n cute and cuddly neu yn ddramatig yn gwneud yn iawn ac mae pobol yn meddwl 'mae bob dim yn iawn'.

"Ond meddyliwch yr adnoddau sydd wedi mynd i mewn gan elusennau i gael yr enillion hynny - a heb hynny dwi'n amau'n fawr fasa nhw wedi dod nôl o gwbl."

Gan bod teganau meddal o wyfynod a nadroedd yn bethau digon prin, barn Duncan Brown ydi bod angen agor llygaid y genhedlaeth nesa i'r rhywogaethau sydd ddim yn 'cute and cuddly'.

"Mi ddylai bod trapio gwyfynod ar y cwricwlwm achos wir yr does dim un gweithgaredd lle 'da chi'n gweld rhywbeth nad oedda chi'n sylweddoli gynt bod ffasiwn beth yn bod.

"Mwya' sydyn mae fel trysor yn agored i chi, neu fel bore 'Dolig. Da chi'n agor y trap ac mae'n llawn rhyfeddodau go iawn, a jest bod nhw yn y nos 'da chi'm yn ymwybodol ohonyn nhw.

"Fesul blewyn mae pen yn moeli a be' 'da ni'n wneud ydi colli fesul un, fesul un - a tyda ni ddim yn sylwi. Mae'n gallu digwydd o flaen ein llygaid heb i ni wybod."

Hefyd o ddiddordeb: