Cosbi Gareth Bennett am swyddfa na chafodd ei hagor
- Cyhoeddwyd
Bydd Aelod Cynulliad yn wynebu cwtogiad yn ei gyflog wedi iddo wario bron i 拢10,000 o arian cyhoeddus ar swyddfa na chafodd ei hagor.
Arwyddodd Gareth Bennett, arweinydd UKIP yn y Cynulliad, prydles yr adeilad, er gwaethaf cyngor i beidio 芒 gwneud.
Mae Pwyllgor Safonau'r Cynulliad wedi argymell i Mr Bennett dderbyn cerydd.
Bydd yn colli 拢2,477 o'i gyflog yn flynyddol er mwyn talu'r ddyled - ond nid yw'n wynebu'r gosb fwyaf difrifol, sef cael ei ddiarddel.
Mae hyn yn golygu bod y swyddfa etholiadol - a oedd fod i gael ei sefydlu yn hen glwb nos Angharad's ym Mhontypridd - wedi costio 拢7,009 i'r AC.
Talodd Mr Bennett gwerth 拢4,533 o gostau cyfreithiol i orffen y brydles am yr adeilad, a oedd yn llaith, heb drydan ac angen cael ei atgyweirio.
Daeth penderfyniad y pwyllgor wedi i ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans, ddangos bod Mr Bennett wedi anwybyddu cyngor ei gyfreithiwr wrth arwyddo'r brydles heb arolwg o'r adeilad na chwaith ei weld ei hun.
Roedd y brydles i fod para tan Ebrill 2021, ond cafodd ei diddymu ym Medi 2017 wedi iddi ddod i'r amlwg bod cost atgyweirio'r adeilad yn uwch na'r lwfansau ar gael i aelodau cynulliad.
Roedd UKIP wedi pryderu byddai Mr Bennett yn cael ei wahardd o'r Cynulliad am gyfnod yn ddi-d芒l, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn materion disgyblu tebyg eleni.
Ond, cytunodd y pwyllgor rhyngbleidiol y dylai Mr Bennett dderbyn cerydd swyddogol yn unig.
Yn 么l y pwyllgor, roedd Mr Bennett wedi torri c么d ymddygiad drwy gam-ddefnyddio adnoddau'r Cynulliad, a dwyn anfri ar y Cynulliad.
Cafodd cyfanswm o 拢9,883 o arian trethdalwyr ei wario ar yr adeilad gan Mr Bennett, gan gynnwys 拢2,477 ar brynu deunydd adeiladu, wedi i'r brydles gael ei arwyddo ym mis Mawrth 2017.
Nid oedd y comisiynydd wedi llwyddo i ddarganfod yn union beth ddigwyddodd i'r deunydd adeiladu, a fydd hefyd yn cael ei ad-dalu gan yr hyn sy'n cael ei dorri o gyflog Mr Bennett.
Mewn adroddiad cafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener, dywedodd Syr Roderick i Mr Bennett dorri cod ymddygiad y Cynulliad.
"Wrth arwyddo prydles heb sicrhau bod yr arolygon a'r amcangyfrifon angenrheidiol wedi cael eu gwneud, gan fynd yn groes i gyngor proffesiynol, a oedd yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus, roedd yn ddiofal," meddai.
Rheolwr ymgyrchu a chyn-bennaeth swyddfa Mr Bennett oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i swyddfa addas - ac nid yw'n cael ei enwi yn yr adroddiad ac nid yw bellach yn gweithio i'r Cynulliad.
Yn 么l Syr Roderick, nid oedd yn amau i Mr Bennett elwa'n bersonol o'r arian cyhoeddus.
Cynigiodd Mr Bennett i ad-dalu'r arian, a chynghorodd i'r Cynulliad i gwtogi ei gyflog.
Ymddiheurodd Mr Bennett, gan ddweud: "Mae hyn yn hynod anffodus a hoffwn gynnig fy ymddiheuriadau am gyfanswm y gost yn 么l y Comisiwn o arian cyhoeddus yn sgil cyfres o ddigwyddiadau anffodus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018