Cynghorau i ailedrych ar bolisi sganio anifeiliaid anwes
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau sir Cymru wedi cytuno i ailedrych ar y ffordd maen nhw'n mynd ati i sganio anifeiliaid anwes.
Roedd wedi galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud sganio am ficrosglodion - mewn anifeiliaid anwes byw neu farw - yn orfodol.
Arweiniodd hyn at gynghorau yn edrych yn wirfoddol ar eu harferion, gyda'r chwech nad oedd eisoes wedi dechrau sganio yn edrych ar bolis茂au newydd.
Mae milfeddygon a llochesi yn sganio anifeiliaid anwes pan maen nhw'n dod o hyd iddyn nhw, ond nid oes unrhyw ofyniad ar gynghorau i wneud hynny.
Ar hyn o bryd, nid yw cynghorau sir Gwynedd, Ynys M么n, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot yn sganio anifeiliaid anwes.
Mae gweddill yr awdurdodau lleol yn sganio anifail anwes "pan fyddant yn penderfynu ei fod mewn cyflwr priodol i wneud hynny".
Cymru yn arwain?
Dywedodd elusen Cats Matter mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i fabwysiadu polisi o sganio ar draws yr holl gynghorau.
Ychwanegodd llefarydd y byddai perchnogion yn "falch ofnadwy" gyda'r penderfyniad.
Dywedodd RSPCA Cymru: "Mae'n gwneud datganiad hynod o bwysig am y ffordd ry'n ni'n trin anifeiliaid mewn cymdeithas yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2018