大象传媒

'Carreg filltir' cynllun i waredu peilonau yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
PeilonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hi'n bosib na chaiff y gwaith ei gwblhau tan 2024, yn 么l y Grid Cenedlaethol

Mae cynlluniau i gael gwared 芒 10 peilon a cheblau trydan o aber Afon Dwyryd wedi cyrraedd "carreg filltir bwysig", yn 么l ymgyrchwyr.

Yn 2104, fe gyhoeddodd y Grid Cenedlaethol eu bod nhw eisiau claddu'r ceblau ger Penrhyndeudraeth ar 么l i astudiaeth honni eu bod yn cael effaith "ddramatig" ar dirwedd yr ardal.

Cafodd yr olaf o dri chyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Nhalsarnau, Gwynedd ddydd Sadwrn er mwyn .

Byddai'r gwaith yn rhan o gynllun ehangach i drosglwyddo p诺er o Ynys M么n i'r tir mawr.

Dywedodd Chris Baines, cadeirydd gr诺p cynghori rhanddeiliaid cenedlaethol ac annibynnol y prosiect Visual Impact Provision, fod y cyfarfodydd hyn yn "garreg filltir bwysig arall i'r prosiect".

"Cafodd Eryri ei dewis i ddechrau oherwydd arwyddoc芒d y dirwedd yn genedlaethol, a nodweddion ysblennydd aber hyfryd afon Dwyryd yn benodol.

"Rydym yn edrych ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol at wella tirwedd y Parc Cenedlaethol," meddai.

Cafodd y peilonau eu hadeiladu yn wreiddiol yn 1966.

Fel rhan o gynlluniau ehangach y Grid Cenedlaethol, gwerth 拢500m, bydd peilonau yn cael eu gwaredu o 65 ardal ar hyd Prydain.