'Blerwch' ddim yn esbonio sgandal Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyhoeddwyd
"Dyw blerwch ddim yn egluro penderfyniad cwango i werthu coed gwerth miliynau o bunnau heb fynd i'r farchnad agored", yn 么l pwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Daeth i'r amlwg yn yr haf fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwerthu cytundebau coed nad oedd wedi cael ei roi i dendr, er iddyn nhw gael eu beirniadu am wneud yr un peth ychydig fisoedd ynghynt.
Mewn adroddiad newydd, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud fod penderfyniadau a wnaed gan y cwango yn "anesboniadwy".
Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dywedodd CNC eu bod yn derbyn cynnwys yr adroddiad ac wedi penodi'r archwiliwr Grant Thornton i adolygu gwaith masnachol coedwigaeth y corff.
Mae cyfrifon y cwango, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi cael eu beirniadu gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol oherwydd eu cytundebau coed.
Yn y gorffennol mae'r archwilydd cyffredinol wedi beirniadu CNC am gytundeb 10 mlynedd, gwerth 拢39m, i werthu coed i BSW Timber heb dendr a luniwyd yn 2014.
Roedd y feirniadaeth ar sail cyfreithlondeb y cytundebau, gan eu bod yn amau bod rheolau Ewropeaidd ar gymorth gan y wladwriaeth yn cael eu torri.
Er gwaetha'r feirniadaeth, fe luniodd CNC 59 cytundeb newydd gyda thri chwmni ym mis Gorffennaf eleni - gan gynnwys BSW Timber - unwaith eto heb gystadleuaeth marchnad agored.
Cafodd pob un o'r cytundebau eu gwerthu am bris is na phris y farchnad, ac fe gafodd y cwango ei feirniadu yn hallt.
'Croes i reswm'
Ym mis Medi dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru bod y penderfyniad i wneud hynny wedi digwydd oherwydd blerwch yn hytrach na llygredd o fewn y corff.
Ond mae aelodau o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi dod i'r casgliad na all "blerwch yn unig" esbonio penderfyniadau'r cwango.
Ychwanegodd Nick Ramsey, cadeirydd y pwyllgor, fod pryderon blaenorol wedi cael eu hanwybyddu a bod gweithredoedd CNC yn "groes i reswm".
Dywedodd adroddiad y pwyllgor: "Mae'r strwythur presennol yn galluogi unigolyn i wneud fel y mynnant heb oruchwyliaeth gan y bwrdd rheoli, dim ymyrraeth gan y prif weithredwr a diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru."
Mae polis茂au CNC yn nodi y dylai coed wastad gael eu gwerthu ar y farchnad agored, oni bai am amgylchiadau arbennig.
Dywedodd prif weithredwr y corff, Claire Pilman, fod y sgandal wedi niweidio enw da Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae CNC wedi derbyn cynnwys yr adroddiad ac wedi penodi'r Mr Thornton i gynnal "adolygiad annibynnol llawn" i waith masnachol coedwigaeth y corff.
Ychwanegodd Ms Pilman: "Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau difrifol ac rydw i'n benderfynol o fynd at wraidd y mater fel ein bod ni'n gweld gwelliannau yn adroddiad y flwyddyn nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018