大象传媒

Manw yn cynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision

  • Cyhoeddwyd
ManwFfynhonnell y llun, S4C

Bu Manw, disgybl 14 oed o Ysgol Llangefni, yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y Junior Eurovision ddydd Sul.

Cafodd Manw ei dewis i ganu dros Gymru drwy gyfrwng y Gymraeg ar 么l iddi ennill cyfres Chwilio am Seren ar S4C.

Roedd Manw yn cystadlu yn erbyn 19 o wledydd eraill yn Minsk gyda'r gan "Hi yw y Berta", c芒n wreiddiol gan Yws Gwynedd.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest.

Gwlad Pwyl oedd yn fuddugol gyda 201 o bwyntiau, tra bod Ffrainc ac Awstralia yn ail a thrydydd.

Gorffennodd Cymru ar waelod y tabl gyda 29 pwynt.