Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Andrew RT Davies: 'Diddymwch Cyfoeth Naturiol Cymru'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithredu mewn modd "anfedrus" a dylai gael ei ddiddymu, yn 么l y Ceidwadwr Andrew RT Davies.
Cafodd CNC ei sefydlu yn 2013 ar 么l uno tri chwango ond mae wedi cael ei feirniadu'n hallt ar 么l gwerthu coed heb fynd 芒'r cytundeb i'r farchnad agored.
Dywedodd Mr Davies - llefarydd y Ceidwadwyr ar yr amgylchedd a materion gwledig - y byddai'r Ceidwadwyr yn rhannu'r corff yn ddau.
Ond yn 么l prif weithredwr CNC Clare Pillman mae staff y corff wedi dangos eu hymrwymiad i wneud "yr hyn oedd yn iawn".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd newidiadau gweinyddol yn galluogi i'r corff "adeiladu ar eu r么l bwysig".
Dywedodd Mr Davies: "Mae o wedi bod yn glir ers peth amser nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas ei bwrpas rhagor a bod pobl Cymru wedi colli ffydd yn y corff.
"Fel rhan o'n gweledigaeth gyffrous ar 么l i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn diddymu'r cwango mawr ac yn sicrhau fod dyletswyddau masnachol a chymedroli yn digwydd yn effeithlon ac ar wah芒n.
"Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi'r cyfle i ni wneud rhywbeth yn wahanol a byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn defnyddio'r cyfle hwn i ailosod y dyletswyddau masnachol, cymedroli a'r warchodfa amgylcheddol trwy Gymru gyfan."
Colled o 拢1m i drethdalwyr
Cafodd CNC ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru drwy uno tri chorff:
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru, oedd yn gyfrifol am gadwraeth;
- Asiantaeth Amgylchedd Cymru, oedd yn gyfrifol am lifogydd, llygredd, rheoleiddio pwerdai;
- Comisiwn Coedwigaeth, oedd yn rheoleiddio plannu a gwerthiant coed.
Yn 2017 fe wnaeth archwilwyr feirniadu cyfrifon y sefydliad, gan nodi gwerthiant coed i sefydliadau pan nad oedd y cytundebau hynny wedi eu cynnig i'r farchnad agored.
Er gwaetha'r gofidiau, fisoedd ar 么l y gwerthiant cyntaf fe wnaeth CNC ailadrodd yr un methiant gan arwain at ymddiswyddiad y cadeirydd Diane McCrea.
Arweiniodd y sgandal at golled o o leiaf 拢1m i drethdalwyr.
Dywedodd Ms Pillman, gamodd i'r adwy wedi i Emyr Roberts ymddeol y llynedd, wrth Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod y sgandal yn ganlyniad i ddiffyg gallu nid cam-ymddwyn.
Ond yn 么l y pwyllgor nid yw diffyg gallu yn esbonio beth ddigwyddodd a bod y methiannau yn "anesboniadwy".
Dywedodd y Llywodraeth bod uno'r cyrff wedi arbed 拢158m i'r trethdalwr dros 10 mlynedd.
Dangosodd arolwg yn 2016 bod dim mwy na 10% o staff y corff yn meddwl fod y sefydliad yn cael ei rheoli'n dda.
Byddai syniad y Ceidwadwyr yn golygu fod holl "gyfrifoldebau cymedroli" CNC ac agweddau masnachol y cwmni yn cael eu gwneud gan gorff newydd.
'Ymwybodol o'r gofidiau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r gofidiau diweddar ac mae cadeirydd adolygiad cynllun a phwyllgor newydd wedi eu penodi i dros weld y gwelliannau sydd eu hangen ar y sefydliad.
"Bydd y newidiadau hyn yn galluogi i Gyfoeth Naturiol Cymru parhau i ddatblygu ei r么l bwysig wrth warchod a gwella amgylchedd Cymru".
Ychwanegodd Ms Pillman: "Er ein bod yn cydnabod bod angen rhai gwelliannau mae staff y corff wedi dangos eu hymrwymiad i wneud yr hyn oedd yn iawn i Gymru, ei hamgylchedd a'i chymunedau.
"Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydym wedi dod 芒 gwaith a chyfrifoldebau tri chorff ynghyd ac rydym ar y trywydd iawn i arbed 拢171m i Gymru o'n targed 10 mlynedd o 拢157m."