Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnydd 25% mewn troseddau cyllyll yng Nghymru
Mae troseddau sy'n ymwneud 芒 chyllyll wedi cynyddu 25% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin, yn 么l ffigyrau'r heddlu.
Mae'r ffigyrau, sy'n cyfri' troseddau sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu, yn cynnwys troseddau fel llofruddiaethau, ymosodiadau a lladrad ble gafodd cyllell ei defnyddio.
Roedd cynnydd hefyd yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod - 11%.
Mae'r heddluoedd wedi cadarnhau eu bod yn cydweithio i ffurfio cynllun troseddau treisgar difrifol ar gyfer Cymru gyfan.
Dywedodd llanc o Gaerdydd wrth Wales Live ei fod wedi gweld plant mor ifanc 芒 12 oed yn cario cyllell.
"Plant bach ydyn nhw, dydyn nhw ddim yn deall os cewch eich dal gyda chyllell y byddwch yn mynd i garchar am dair blynedd.
"Mae'n gyfnod hir."
'Cyllyll cegin, cyllyll hela, machetes'
"Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hyn, yn yr un ffordd, os ydych yn trywanu rhywun byddwch yn treulio 25 mlynedd dan glo, mae'n wallgof.
"Dwi wedi gweld pobl gyda chyllyll cegin, rambos, cyllyll hela, cleddyfau samurai, machetes, unrhyw fath o gyllell a dweud y gwir.
"Does neb yn ymladd gyda dyrnau bellach, mae'r cyfan yngl欧n 芒 phwy bynnag sydd 'efo'r gyllell fwyaf."
Mae gweithwyr ieuenctid yn dweud fod y cynnydd mewn troseddau sy'n ymwneud 芒 chyllyll yn adlewyrchu'r pwysau mae rhai pobl ifanc yn teimlo i gario cyllell er mwyn eu gwarchod.
Dywedodd Dr Abdul Azil Ahmed o'r T卯m Cefnogi Ieuenctid Ethnig: "Un o'r pethau mwyaf cyffredin yw pobl ifanc yn cario cyllyll am eu bod ofn pobl eraill.
"Mae dwy elfen o droseddau sy'n ymwneud 芒 chyllyll. Mae rhai sy'n cario cyllyll ar gyfer ymosodiadau treisgar a rheiny sy'n cario cyllyll i amddiffyn eu hunain oherwydd eu bod nhw'n teimlo'r angen.
"Mae cyfuniad o'r ddau yn wenwynig, ac yn anffodus dyna sy'n digwydd yng Nghaerdydd."
Daeth arolwg y Senedd Ieuenctid o 13,000 o bobl ifanc Caerdydd i'r canlyniad bod troseddau cyllell ar frig y rhestr o bryderon pobl ifanc.
Ond nid mewn dinasoedd yn unig mae 'na broblem sy'n ymwneud 芒 chyllyll.
Roedd cynnydd o 43% mewn troseddau difrifol gyda chyllyll yn ardal Heddlu De Cymru yn y cyfnod hyd at Mehefin eleni - y cynnydd mwyaf o holl heddluoedd Cymru.
Yn 么l Scott Horler, sy'n gydlynydd troseddau cyllyll yn Media Academy Cardiff, mae sawl rheswm am y cynnydd, gan gynnwys y rhwydwaith gyffuriau sy'n cael ei adnabod fel county lines.
"Mae nifer o'r bobl ifanc yma wedi cael eu hecsbloetio o ran gangiau county lines, ac maen nhw'n teimlo'r angen i gario arf i amddiffyn eu hunain wrth gario allan gwaith peryglus i bobl beryglus iawn.
"Mae canolfannau ieuenctid a chlybiau ieuenctid wedi cael eu cymryd i ffwrdd; mae'r bobl ifanc yma wedyn yn crwydro'r strydoedd a dyma pryd mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd.
"Yn 么l rhai pobl ifanc, mae'r ddelwedd yn bodoli fod pobl ifanc eraill yn cario arfau a chyllyll, felly sut maen nhw'n mynd i amddiffyn eu hunain?
"Drwy gario cyllyll eu hunain."
'Cymryd mantais'
Yn 么l Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, dyw'r ardal ddim yn eithriad yng Nghymru wrth i droseddau gyda chyllyll a llafnau gynyddu ar draws y wlad.
"Rydyn ni'n gweithio'n gyson gydag asiantaethau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau addysg i daclo'r materion yma, ac mae gwaith partneru ar waith gydag awdurdodau lleol a Safonau Masnach er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yngl欧n 芒 pheidio gwerthu cyllyll i rai dan 18 yn cael ei pharchu.
"Diolch i'r drefn dyw hon ddim yn drosedd sydd i'w gweld yma ar yr un lefel a rhai dinasoedd mawr eraill, ond mae'n rhaid i ni fod yn benderfynol ar bob adeg i wthio 'n么l yn erbyn y gangiau hynny sy'n cymryd mantais ar y mwya' bregus, gan gynnwys gweithwyr rhyw a'r digartref.
"Mae'n rhaid i ni ddeall pam y byddai pobl ifanc yn gwneud y penderfyniad ofnadwy o gario cyllell - oherwydd does dim cyfiawnhad, unman, a'r lleiaf oll ym mwyafrif ein trefi a'n dinasoedd."