大象传媒

Gething: Hiliaeth yn 'rhan o'r realiti o fod yn berson du'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething yn un o'r ymgeiswyr i olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur yng Nghymru

RHYBUDD: Mae'r erthygl isod yn cynnwys iaith all beri gofid.

Mae dioddef sylwadau hiliol yn rhan o'r realiti o fod yn berson du, yn 么l un o'r ymgeiswyr i arwain y Blaid Lafur yng Nghymru.

Dywedodd Vaughan Gething AC wrth raglen Newyddion9 ei fod wedi dioddef camdriniaeth hiliol yn yr ysgol, yn y gweithle ac ar nosweithiau allan.

"Rydym yn sylweddoli nad yw'r byd yn lle teg iawn, nad ydych yn cael eich trin fel y gwir berson yr ydych chi, eich cymeriad a'ch gallu," meddai Mr Gething.

"Mae 'na adegau pan mae pobl ond yn gweld lliw eich croen.

"Mae cael eich galw yn 'nigger', cael eich galw'n 'black bastard', mae hynny'n rhan o'r realiti o fod yn berson du."

'Anghyfforddus'

Dywedodd Mr Gething fod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn annymunol oherwydd ei wreiddiau gyda'r Blaid Lafur yn hytrach na lliw ei groen.

"Roeddwn wedi synnu gweld pa mor anghyfforddus 芒 pha mor flin oedd y rhaniadau rhwng cefnogwyr Plaid Cymru a Llafur," meddai.

Mae hefyd yn teimlo fod rhai agweddau yn neuadd breswyl Pantycelyn yn troi pobl i ffwrdd o ddysgu'r iaith Gymraeg.

"Doedd yr awyrgylch ddim wastad yn un caredig a chroesawgar, a dwi'n credu ei fod wedi gwneud cam i'r iaith oherwydd fe ddylai Pantycelyn fod yn ffenestr i mewn i'r iaith ac yn ddrws agored i bawb, ond doedd pawb ddim yn teimlo felly."

Ychwanegodd: "Roedd 'na elfen annymunol [yn y brifysgol].

"Cefais mwy o brofiadau gofidus yn Aberystwyth am fod yn gefnogwr Llafur, ac am y ddelwedd fy mod yn Sais yn hytrach na bod yn Gymro, na'r ffaith fy mod yn berson du."