Cwmni o Ddinbych yn 'chwalu rhwystrau' coesau ffug
- Cyhoeddwyd
Gall teclyn gorchuddio coesau prosthetig wneud "gwahaniaeth mawr" i hyder y rheiny sydd wedi colli coesau, yn 么l elusen.
Mae cwmni Limb Art o ardal Dinbych wedi ennill gwobr am eu gorchuddion, sydd yn aml yn lliwgar neu'n dangos symbolau.
Yn 么l y sylfaenydd, Mark Williams, mae chwalu rhwystrau ac annog pobl i fod yn falch o'u coesau ffug yn rhan o'r nod.
Dywedodd elusen Leonard Cheshire bod mentrau fel hon yn gadael i unigolion "sefyll allan am resymau da".
'Siap gwahanol'
Eleni, cyrhaeddodd Limb Art rownd derfynol gwobrau mentergarwch oedd wedi'u hyrwyddo gan sylfaenydd EasyJet, Stelios Haji-Ioannou.
Gyda'r clod, roedd gwobr ariannol o 拢10,000. Ond menter bersonol oedd creu gorchuddion yn wreiddiol, yn 么l Mark Williams, sy'n gyn-nofiwr Paralympaidd a gollodd goes mewn damwain ffordd tra ar ei feic yn 1982.
"Pum mlynedd yn 么l, o'n i'n gwneud covers i fy hun.
"Ac wedyn, oedd lot o ffrindiau oedd 'efo un goes, o'n i'n nabod o'r Paralympics a phetha', yn dechrau gofyn 'alli di wneud un o'r rheina i fi?'
"Felly datblygodd y busnes drwy ddechrau gwneud ambell i cover."
Mae'r coesau prosthetig sy'n cael eu cynnig ar y gwasanaeth iechyd yn "ymarferol", yn 么l Mark, ond yn debyg i bolyn ar waelod y goes.
Mae'r gorchuddion yn rhoi si芒p gwahanol a'r dyluniadau'n gallu adlewyrchu diddordebau'r person sy'n ei ddefnyddio.
Mae un o ffrindiau Mark, Anthony Bates, wedi bod yn profi nifer o ddyluniadau Limb Art.
Collodd ei ddwy goes mewn damwain beic modur, ac mae'n dweud bod y gorchuddion yn medru "chwyddo hyder" y rheiny sy'n defnyddio coesau ffug.
"Mae'n golygu nad ydach chi wastad ar y droed 么l, yn meddwl am beidio mynd allan o'r t欧 rhag bod pobl yn syllu.
"Dwi wedi caledu i'r peth bellach.
"Ond mae gadael ysbyty a dychwelyd i'r byd go iawn ar 么l colli eich coesau yn frawychus."
'Hyder'
Tynnu sylw at goesau prosthetig mewn ffordd bositif ydy'r bwriad, yn 么l Mark. Mae hynny'n werthfawr, yn 么l Mair Aubrey o elusen Leonard Cheshire, oedd ynghlwm 芒'r gwobrau mentergarwch.
"Mae'n rhoi'r hyder i bobl fynd allan a bod eraill yn edrych ar y celf, nid y prosthetig," meddai.
"'Dan ni wedi cael ymateb da iawn, ac mae pobl yn excited 'efo'r fenter oherwydd maint y gwahaniaeth allai hyn wneud i'w bywyd nhw a'u hyder nhw."
Bwriad Mark Williams ydy ehangu'r busnes dros y misoedd nesaf, a lledaenu'r neges am ei orchuddion i'r Unol Daleithiau.