大象传媒

Troi pob t欧'n bwerdy

  • Cyhoeddwyd

Mewn adroddiad diweddar, rhybuddiodd y Panel Rhyng-lywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) bod y sefyllfa cynhesu byd-eang yn llawer gwaeth na'r hyn roedd pawb wedi ei feddwl yn wreiddiol.

Os na fyddai camau pwysig yn digwydd yn gyflym i'w leihau, rhybuddiodd y panel o wyddonwyr blaenllaw y byddai'r canlyniadau'n drychinebus.

Un cam pwysig i gyrraedd y nod yw datblygu dulliau adnewyddol o greu ynni i gynhesu a rhedeg ein cartrefi a'n diwydiannau, ac mae gwaith pwysig, arloesol yn y maes yma'n digwydd ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe. Dyma'r athro Trystan Watson, un o arweinwyr y prosiect i esbonio:

Ffynhonnell y llun, Specific

"Dwi ddim yn awdurdod o gwbl mewn newid hinsawdd, ond rwy'n rhedeg prosiect unigryw sydd 芒'r nod o droi adeiladau mewn i bwerdai.

"Y bwriad yw cymryd tai neu ffatr茂oedd a rhoi haenen allanol yr adeilad ar waith. Mae hyn nid ond yn golygu rhoi paneli solar fel ry'n ni'n adnabod nhw nawr, ond datblygu technolegau newydd sydd yn gallu cael eu rhoi ar ochrau'r adeiladau er mwyn dod 芒 gwres i mewn i'r adeilad: technoleg o'r enw Transpired Solar Collection.

Gofod gwastraff

"Mae rhywbeth fel pedwar biliwn metr sgw芒r o doeau ym Mhrydain, sydd yn gwneud dim byd ond cadw'r glaw mas, ond os allwn ni jest defnyddio'r toeau yna, fe allwn ni wneud gwahaniaeth enfawr yng nghyfanswm yr ynni ni'n ei ddefnyddio a'i gynhyrchu.

Ffynhonnell y llun, Specific
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Swyddfa ynni bositif, sy'n defnyddio'r technegau solar a storio diweddaraf ar ganolfan arloesi a gwybodaeth SPECIFIC ar gampws Prifysgol Abertawe

"Fy r么l i yw datblygu celloedd solar newydd, mwy effeithiol a rhatach i'w cynhyrchu. Ar hyn o bryd, mae paneli solar yn cael eu gwneud mas o silicon, ac mae'r silicon yn gorfod fod yn bur iawn. Felly mae cynhyrchu silicon o'r fath yn broses sydd yn cymryd lot o ynni. Mae hefyd yn broses sy'n cael ei wneud mewn gwledydd eraill ac felly o ddim defnydd economaidd i Gymru.

Troi'r broses ar ei ben

"Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych eto ar y ffordd ni'n gwneud ac yn defnyddio paneli solar. Er enghraifft, ar hyn o bryd, ni'n creu to, ac wedyn yn gwneud twll yn y to ac yn rhoi panel solar ynddo.

"Ein syniad ni yw troi'r holl do mewn i banel solar. Felly ar hyn o bryd, mae 'na ffatri yng Nghasnewydd sydd yn medru ffurfio'r elfen solar mewn i ffoil tenau, sydd wedyn yn medru cael ei roi dros y paneli metel sydd yn ffurfio'r to.

Ffynhonnell y llun, Specific
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ein syniad ni yw i droi'r holl do mewn i banel solar..."

Syml, cyflym, rhad...

"Y fantais amlwg yw bod y to cyfan yn banel solar, ac yn ymarferol, mewn diwrnod, mae'n bosib adeiladu to ar adeilad newydd, sydd gyda'r paneli solar wedi'i adeiladu mewn iddo'n barod.

"Ar hyn o bryd, mae'r ffoil yn dod o wlad arall, ond ein nod ni yw creu fersiwn fedrwch chi brintio ar y metel drwy greu panel solar nid o lwmpyn o silicon, ond o inc solar ni'n ceisio'i ddatblygu gyda chwmni arall ar hyn o bryd.

"Mewn amser y gobaith yw y byddwn ni'n medru printio, neu hyd yn oed paentio'r inc solar yma ar y dur, neu hyd yn oed gwydr. Mae'r manteision o ran cost adeiladu a chyfleustra yn amlwg iawn.

Budd economaidd i'r wlad

"O wneud yr ymchwil yma yng Nghymru, ein nod hefyd yw creu'r system gynhyrchu hefyd yng Nghymru, sydd yn rhoi manteision ychwanegol i ni fel gwlad.

"Yr unig beth sydd yn stopio hyn rhag bod yn realiti nawr yw'r her o geisio sicrhau fod yr adeiladau yr un gost ag adeilad cyffredin. Ar hyn o bryd, mae'r gost o adeiladu ychydig yn uwch, dim llawer yn uwch, ond yn uwch.

Ffynhonnell y llun, Specific

"Wrth gwrs dros fywyd yr adeilad, mae'r gost ychwanegol yma'n cael ei ad-dalu, ond mae angen ysgogaeth i annog unigolion a chwmn茂oedd i brynu mewn i hwn.

"Gyda hyn mewn golwg, ni'n gweithio ar dechnolegau newydd, mwy effeithiol i storio unrhyw ynni sy'n cael ei gynhyrchu, a thechnolegau sy'n defnyddio unrhyw ynni sy'n cael ei greu yn fwy effeithiol.

Cyfuno technolegau

"Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni newydd ennill cyllid i ddatblygu canolfan ymchwil newydd o'r enw'r Active Building Centre. Syniad hwn yw dod 芒'r holl dechnolegau a all gael eu defnyddio mewn adeiladau at ei gilydd mewn un adeilad ymarferol.

Ffynhonnell y llun, Specific
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ystafell ddosbarth ar gampws newydd Prifysgol Abertawe sydd yn cynyrchu mwy o ynni na mae'n defnyddio

"Ar y foment mae gyda ni ddau adeilad yn ein canolfan arloesi a gwybodaeth SPECIFIC, ar gampws y brifysgol, sydd yn ynni bositif. Hynny yw, maen nhw'n creu mwy o ynni na maen nhw'n ei ddefnyddio dros y flwyddyn. Fe godon ni'r adeilad cyntaf ddwy flynedd yn 么l, sef adeilad dosbarth sydd wedi cael ei ddefnyddio'n gyson ers hynny.

"Y sialens fawr yn y maes yma yw, nid jest datblygu technolegau newydd, ond i sicrhau eu bod nhw'n gweithio gyda'i gilydd.

"Rhaid sicrhau bod unrhyw gasglwyr solar yn siarad gyda'r batri sydd yn storio'r ynni, sydd yn ei dro'n siarad gyda'r haenen o dan eich traed sydd yn twymo'r ystafell.

"Un peth ddarganfyddon ni'n syth oedd bod yna ddim system felly ar gael, felly'r cam cyntaf oedd gweithio ar ddatblygu hwnnw.

"Erbyn hyn rydy ni newydd orffen yr ail adeilad yn y prosiect, sef swyddfa weithredol, sydd 芒 thechnolegau mwy newydd fyth.

Ffynhonnell y llun, Specific
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Batris sy'n defnyddio d诺r halen sy'n cael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i storio unrhyw ynni ychwanegol sy'n cael ei gynhyrchu gan yr adeilad. Gall y batris storio digon o ynni i redeg y stafell am hyd at ddau ddiwrnod

"Pob tro rydyn ni'n datblygu adeilad, ni'n dysgu rhywbeth, ac os lluoswch chi hyn gyda'r nifer o adeiladau sydd yn cael eu creu pob blwyddyn, wel mae'r potensial i ddatblygu yn syfrdanol.

Creu fersiwn masnachol

"Ond ar hyn o bryd, does dim system hawdd ar gael i adeiladwyr eu defnyddio er mwyn gwneud adeiladau newydd yn ynni bositif, a dyna ran o'n swydd ni fel canolfan ymchwil; rhoi system at ei gilydd a allai gael ei ddefnyddio gan y diwydiant adeiladu yn hawdd er mwyn creu'r adeiladau yma'n hawdd, yn gyflym ac yn rhad.

"Mae sefyllfa lle ni'n medru adeiladu adeiladau ynni positif yma yn barod, ac mae Cymru yn arwain y byd ar hyn o bryd yn yr ymchwil a'r dechnoleg yma. Y cam nesa' fydd ei ddefnyddio yn y byd iawn, ond rydyn ni'n sicr ar y ffordd!"

Hefyd o ddiddordeb...