Beirniadu arwyddion ffordd uniaith Saesneg yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu Cyngor Wrecsam am beidio 芒 chyfieithu rhai o arwyddion ffordd y sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gosod 80 o sticeri ar arwyddion 'Give Way' sy'n uniaith Saesneg mewn protest.
Dywedodd Aled Powell, sy'n aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod y cyngor wedi dweud wrtho eu bod wedi "derbyn gorchymyn gan awdurdod uwch sydd yn eu hesgusodi'r arwyddion 'ildiwch' o'r ddeddfwriaeth".
Yn 么l Cyngor Wrecsam does dim rheidrwydd cyfreithiol arnyn nhw i newid arwyddion sydd wedi eu gosod cyn Mawrth 2016.
Camgymeriadau 'annerbyniol'
Er hynny dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones fod y cyngor yn "ymwybodol fod angen arwyddion dwyieithog pan fydd rhai newydd yn cael eu gosod".
Mae Mr Jones hefyd yn nodi fod rhai o'r camgymeriadau gafodd eu nodi yn adroddiad Comisiynydd y Gymraeg i'r cyngor yr wythnos diwethaf yn "annerbyniol".
Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at arwyddion uniaith Saesneg oedd wedi'u gosod ar ddrws ger Marchnad y Bobl yn y dref.
Hefyd, y ffaith fod y Gymraeg wedi'i osod o dan y testun Saesneg ar arwydd coeden Nadolig yn Wrecsam.
Mae'r cyngor wedi dweud y bydd pob arwydd newydd yn y dyfodol yn ddwyieithog ac wedi cael s锚l bendith gan d卯m o fewn y cyngor sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg.
Bydd gweddill cynnwys adroddiad y comisiynydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod cynghorwyr sir ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2018