大象传媒

Primodos: Euogrwydd mam am anableddau ei merch

  • Cyhoeddwyd
Helen a'i mam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helen Surmon gyda'i mam Diane

Mae mam i ferch gafodd ei geni gydag anableddau dwys yn dweud y bydd yn "teimlo'n euog am byth" am gymryd prawf beichiogrwydd y mae'n credu wnaeth niweidio'i phlentyn.

Mae Diane Surmon yn un o tua miliwn o fenywod yn y DU a gymrodd y cyffur Primodos rhwng y 1950au a'r 70au.

Er bod astudiaeth newydd wedi cysylltu'r cyffur gyda babanod yn cael eu geni gyda chymhlethdodau, mae'r gwneuthurwyr yn mynnu nad oes tystiolaeth o hynny.

Dywedodd Mrs Surmon, sydd bellach yn 74 oed: "Mae Helen [ei merch] yn 44 oed nawr ac rwy'n dal yn teimlo'n euog.

"Fy mai i yw e. Mae Helen fel yna o'm hachos i, ac er bod pobl yn dweud na ddylech chi deimlo'n euog, mi ydych chi."

Roedd hi'n siarad wrth i ymchwil newydd sy'n honni cysylltiad rhwng y cyffur a babanod yn cael eu geni gydag anableddau dwys ac anffurfiadau gael ei gyflwyno i adolygiad gan Lywodraeth y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Primodos yn brawf beichiogrwydd oedd yn rhoi canlyniadau yn llawer cynt na'r prawf arferol

Cafodd y cyffur hormon dadleuol ei roi i fenywod ym Mhrydain rhwng 1953 ac 1975 fel prawf beichiogrwydd, cyn iddo gael ei dynnu n么l oherwydd pryderon diogelwch.

Daeth y tabledi yn lle prawf wrin am eu bod yn rhoi canlyniadau yn syth - roedd y prawf wrin yn cymryd hyd at bythefnos i roi canlyniadau.

Er i ymgyrchwyr honni fod y cyffur wedi achosi cymhlethdodau mewn babanod fe gafodd camau cyfreithiol yn erbyn gwneuthurwyr gwreiddiol Primodos - Schering - eu hatal oherwydd diffyg tystiolaeth, ac fe wnaeth adolygiad llywodraethol y llynedd ddweud nad oedd tystiolaeth wyddonol yn dangos fod y cyffur wedi achosi niwed.

Pan roddodd Mrs Surmon enedigaeth i'w merch yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn 1974, roedd hi'n gwybod fod rhywbeth o'i le.

Cafodd Helen ei geni'n ddall a gyda hydroseffalws. Pan oedd yn 12 wythnos oed dioddefodd waedlif ar ei hymennydd.

Dywedodd meddygon yn hen Ysbyty'r Waen yng Nghaerdydd na fyddai fyth yn medru siarad na cherdded, ond mynnodd Mrs Surmon - cyn-nyrs - gael barn arall yn ysbyty plant Great Ormond Street yn Llundain.

Yno y clywodd gan feddyg mai dim ond y cyffur Primodos allai fod wedi achosi anableddau Helen.

Erbyn heddiw mae Helen yn dal i ddiodde' ffitiau cyson, ac mae hi angen gofal 24 awr mewn cartref.

"Am faint bynnag y bydd Helen yn fyw, rydych chi'n beio'ch hun am fel y mae hi, a sut fywyd y mae'n mynd i'w gael," meddai Mrs Surmon.

"Byddaf yn teimlo'r euogrwydd yna tra byddai'n fyw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd rhybudd ei osod ar becynnau Primodos gan reoleiddwyr yn y DU yn 1975, ond roedd menywod eisoes wedi bod yn ei ddefnyddio ers 18 mlynedd

Gobaith Mrs Surmon nawr yw y bydd astudiaeth newydd gan yr Athro Carl Heneghan o Brifysgol Rhydychen yn golygu y gall hi, a mamau eraill, ddechrau camau cyfreithiol yn erbyn gwneuthurwyr Primodos oherwydd yr hyn ddigwyddodd i'w plant.

Mae canlyniadau'r ymchwil wedi cael eu cyflwyno i adolygiad gan Lywodraeth y DU sy'n cael ei arwain gan y Farwnes Julia Cumberlege i'r modd y gwnaeth yr awdurdodau ddelio gyda Primodos ynghyd 芒 materion eraill.

Canlyniad yr ymchwil yw bod "y defnydd o hormonau yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig gyda risg uwch o anffurfiadau genedigol".

Dywedodd cwmni Bayer - sydd bellach wedi cymryd yr awenau gan wneuthurwyr gwreiddiol Primodos - ei fod yn ymwybodol o adolygiad gan Lywodraeth y DU i ddiogelwch meddyginiaethau ac offer meddygol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae hyn yn dilyn adolygiad gan weithlu arbenigol annibynnol ar brofion beichiogrwydd hormon sydd eisoes wedi canfod - yn unol gyda barn Bayer ac yn seiliedig ar yr holl ddata sydd ar gael - nad yw'r dystiolaeth wyddonol yn cefnogi cysylltiad achosol rhwng y defnydd o brofion beichiogrwydd hormon, megis Primodos, gydag anffurfiadau genedigol neu erthyliad naturiol."