Achub englynion bedd gyda ‘shaving foam’!
- Cyhoeddwyd
Mae pryder bod rhan bwysig o'n hanes unigryw fel cenedl yn diflannu o flaen ein llygaid, heb i ni sylwi.
Mae englynion wedi bod yn cael eu gosod ar gerrig beddi ers canrifoedd, arfer sy'n hollol unigryw i'r Cymry.
Mae cofnod ar gael o bron i 15,000 o'r englynion bedd hyn ond credir bod cymaint â 10,000 arall ym mynwentydd Cymru a thu hwnt sydd heb eu cofnodi o gwbl ac maen nhw'n diflannu.
Dim ond 60% o'r holl englynion bedd sy'n bodoli sydd gennym felly ar gof a chadw, ac mae apêl ar y gweill i nodi ac achub y gweddill.
Ond gyda'r penillion pedair llinell wedi eu gosod ar gerrig, onid ydynt yn debygol o barhau am flynyddoedd lawer eto? Pam y brys?
Cerrig beddi yn dirywio
Mae Guto Rhys yn hanesydd a ieithydd, sy'n wreiddiol o Lanfairpwll ond sydd bellach yn byw ger Brwsel, Gwlad Belg. Mae'n apelio arnom i gyd i fynd allan i'r mynwentydd i dynnu lluniau cerrig beddi a'u cofnodi ar grŵp Facebook o'r enw Englyn Bedd a sefydlwyd ganddo yn 2016. Ers hynny mae'r grŵp wedi denu dros 400 o aelodau.
Meddai Guto, sydd wedi bod yn cofnodi englynion ers degawdau, "Mae llawer mewn cyflwr digon gwael yn llechu dan dywyrch neu yn cael eu bwyta gan gen a baw adar. Gall llechi hollti, bydd tywodfaen yn breuo a gall llythrennau cywrain o'r 1800au ddisgyn yn ddisymwth o'u harysgrifau.
"Rydym yn prysur golli llawer o'r cyfoeth diwylliannol, barddol, cymdeithasol a hanesyddol hwn a mater o frys yw cofnodi a thrafod. Gyda chymdeithas yn newid, pobol yn mudo a'r capeli'n cau, mae'r wybodaeth am y gwrthrychau, y beirdd a'r cyd-destun yn mynd ar goll.
"Hyd yn hyn, cyhoeddwyd deuddeg casgliad o feddargraffiadau sy'n cynnwys dros 5,000 o englynion bedd. Rydw i fy hun wedi casglu dros 3,000 ac mae ambell gasgliad personol sylweddol arall ar gael.
"Uwchlwythwyd rhyw 2,000 o luniau o englynion i'r grŵp Facebook Englyn Bedd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977 gosodwyd cystadleuaeth i greu casgliad o englynion bedd. Ymysg y casgliadau na ddaeth i'r brig roedd 7,500 o englynion. Mae'r englynion hynny bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Gwyddom bod nifer o'r englynion yn ymddangos mewn mwy nag un o'r casgliadau ond gellid amau bod dros 15,000 o englynion gwreiddiol wedi eu cofnodi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd."
Hyd yn hyn dim ond LlÅ·n, Ceredigion, Dyffryn Ogwen, ardal Porthmadog a'r Wladfa sydd wedi eu harchwilio yn drylwyr.
"Nid oes fawr o gofnodi wedi bod yn Sir Benfro, Maldwyn, Sir y Fflint na hyd yn oed ardaloedd poblog fel Morgannwg.
"Mae lle i gredu bod rhyw 10,000 o englynion yn aros i'w cofnodi a'u ffotograffu mewn trefi fel Aberdâr, Rhuthun, Llanelli, Llanymddyfri ac ati. A gwyddom fod nifer hefyd o gapeli Cymraeg a ffynnai yn yr Unol Daleithiau ychydig dros ganrif yn ôl."
Ffansi mynd i hela englynion?
Er bod nifer o gasglwyr brwd yn barod yn tynnu lluniau mae angen mwy, llawer iawn mwy.
Meddai Guto,"Lle bynnag ydych chi yng Nghymru (oni bai eich bod yn ardaloedd traddodiadol Seisnig Sir Faesyfed, Sir Fynwy neu dde Sir Benfro) mae'n debyg eich bod o fewn milltir neu ddwy i englyn bedd - prin yw'r mynwentydd heb yr un englyn ac mae 100 neu 200 mewn ambell fynwent! Dyma sut rydym yn gwybod bod miloedd o englynion ar goll."
Oherwydd eu hoedran nid yw pob carreg yn hawdd ei darllen. Ond i ddod dros y broblem honno mae gan Dafydd Whiteside Thomas o Lanrug, sydd yn gyn-athro Daeryddiaeth ac wedi cofnodi cannoedd o gerrig beddi, dechneg syml ac effeithiol iawn:
"Mi fyddaf yn taenau ewyn eillio (shaving foam) dros y garreg, yna'n tynnu darn o gerdyn ar ei thraws. Yn sydyn mae'r llythrennau'n dod i'r golwg yn gwbl blaen.
"'Dyw'r broses hon ddim yn anharddu'r garreg na'i niweidio mewn unrhyw ffordd. Yn dilyn cawod o law fe fydd y garreg yn ôl fel ag yr oedd."
Ond ai ar dudalen Facebook y dylid cadw'r cyfoeth pwysig hwn?
Meddai Guto Rhys, "Mae gwir angen bas-data cynhwysfawr sy'n cynnwys y manylion oll - enwau, dyddiad, cartrefi, lleoliad, eglwysi, themâu, pwy oedd y bardd, cynnwys ac ati a hwnnw ar gael i'r cyhoedd.
"Nid traddodiad undonog mo'r traddodiad englyn bedd. Mae yma alaru dwys dros laddedigion y Rhyfel Mawr, mawl i David Lloyd George, cystudd colli babanod, beirniadaeth gymdeithasol am ddamweiniau mewn chwareli a chofnodi gweithwyr a fu farw yn Nhanchwa erchyll Senghenydd.
"Mae yma golled dorcalonus gan feirdd mawr y genedl fel Dic Jones, Gerallt Lloyd-Owen, Syr John Morris-Jones ac ati. Dyma draddodiad sy'n ymestyn yn ôl yn ddi-dor dros gyfnod o 450 o flynyddoedd gan bod cofnod o englyn o 1570 ar garreg fedd ym mynwent Beddgelert."
Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymgyrch i ddod o hyd i englynion bedd, ymunwch ag neu anfonwch neges at gutorhys@yahoo.com.
Hefyd o ddiddordeb...