Pryder wrth i blant adael addysg cyfrwng Cymraeg yn sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil gan 大象传媒 Cymru wedi datgelu bod nifer o blant yn gadael addysg Gymraeg yn Sir Benfro ar 么l mynychu ysgolion cynradd Cymraeg, gan deithio i siroedd cyfagos i gael addysg uwchradd ddwyieithog neu addysg Saesneg yn bennaf.
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf mae'n costio dros 拢442,000 i gludo 470 disgyblion i siroedd cyfagos.
Mae ffigyrau'r cyngor sir yn dangos nad yw rhai yn parhau gydag addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Preseli, Crymych, gan deithio i ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Geredigion, gyda threthdalwyr Sir Benfro yn ariannu'r gost.
Yn 么l Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith, mae'r sefyllfa yn "achos pryder" ac yn deillio o'r ffaith bod rhieni yn medru dewis.
"Er maen nhw'n dysgu Cymraeg ail iaith, dyw plant ddim yn gorffen yr ysgol uwchradd yn ddwyieithog," meddai.
"Mae'r plant yma yn cael eu hamddifadu o addysg Gymraeg."
Dywedodd llefarydd ar ran Sir Benfro fod yna bryder am y ffigyrau ond gan ychwanegu fod y sefyllfa hefyd yn un cymhleth.
Daw penderfyniad rhieni i anfon eu plant dros y ffin er gwaetha'r ffaith i Ysgol y Preseli gael ei gosod ymhlith 10 ysgol uwchradd gorau Cymru gan bapur newydd The Times yn ddiweddar.
Yn 么l ffigyrau Sir Benfro, mae'r broblem ar ei gwaethaf mewn ardaloedd sydd yn agos at y ffin.
Mae Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin yn darparu addysg Saesneg yn bennaf, gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg.
Yn 么l y ffigyrau mae 337 o ddisgyblion yn teithio o Sir Benfro i Ysgol Dyffryn Taf.
Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi yn darparu addysg ddwyieithog.
Yn ogystal ag Ysgol Y Preseli, mae gan Sir Benfro ail ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd.
Gadael addysg cyfrwng Cymraeg
Yn 2018, dim ond chwech o blith 16 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Llandudoch wnaeth ddewis mynd i Ysgol y Preseli - 37.5% yn unig;
Dim ond pedwar o blith 12 disgybl Ysgol Cilgerran wnaeth fynychu Ysgol y Preseli - 33%;
Mae'r sefyllfa yn broblem hefyd yn ardaloedd Arberth a Maenclochog;
Yn ne'r sir fe aeth 10 o uned Gymraeg Arberth o blith 14 disgybl naill ai i Ysgol y Preseli neu Ysgol Caer Elen - 71%;
O'r 11 ym mlwyddyn 6 Ysgol Maenclochog, fe aeth 7 i Ysgol y Preseli - sydd yn golygu bod 63.6% wedi dewis parhau ag addysg Gymraeg.
Dywed Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith fod y sefyllfa bresennol yn golygu bod rhieni yn cael yr opsiwn i ddewis peidio parhau gydag addysg Gymraeg.
"Mae'n bosib i ddisgyblion osgoi'r Gymraeg neu ddysgu hi fel ail iaith a 'dan ni'n gwybod bod Cymraeg ail iaith ddim yn gweithio.
"Ni yn cael arddeall bod rhai sydd yn mewnfudo i'r ardal wedi anfon eu plant i ysgolion cynradd Cymraeg ond maen nhw'n dewis eu hanfon nhw i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg - mae hynny'n rhannol achos maen nhw'n meddwl bydd y Gymraeg yn dal nhw n么l.
"Mae angen lleddfu pryderon."
'Parchu barn'
Yn 么l Pennaeth Ysgol y Preseli, Michael Davies, mae'n rhaid parchu barn rhieni.
"Mae yna nifer o rieni yn symud mewn i'r ardal," meddai.
"Mae eu plant yn ymuno 芒'r ysgolion cynradd cyfagos. Maen nhw'n dod mewn fel hwyr ddyfodiaid.
"Mae yna rai sydd yn dewis dweud 'Na, dyw addysg cyfrwng Cymraeg ddim i fi', ac yna maen nhw'n symud dros y ffin naill a'i i Sir G芒r neu i Geredigion.
"Ond mae yna rieni sydd yn symud eu plant ffordd arall hefyd."
Yn 么l Mr Davies, mae rhai yn cael eu colli o'r gyfundrefn addysg Gymraeg fyddai wedi medru ymdopi gydag addysg uwchradd Cymraeg.
"Beth ni'n gweld yw bod yna ddisgyblion allai fod wedi dod i Ysgol y Preseli ac maen nhw'n dewis Ysgol Dyffryn Taf, ond dyw'r dilyniant o ran y Gymraeg ddim yn bodoli.
"Yn amlwg nid yn unig mae yna gostau trafnidiaeth sydd yn poeni finne, ond pam mae disgyblion yn mynd dros y ffin, mae bob disgybl werth hyn a hyn o arian, o gwmpas 拢4,000 wedwn ni, mae'r incwm yna yn mynd i ysgolion mewn awdurdodau cyfagos."
Yn 么l y Cynghorydd Cris Tomos, yr aelod cabinet sydd yn gyfrifol am y Gymraeg, mae'r sefyllfa yn un cymhleth.
"Mae rhai teuluoedd yn agosach at ysgolion dros y ffin fel Ddyffryn Taf yn Hendy-gwyn," meddai.
"Mae yna bwyllgor marchnata yn Ysgol y Preseli sydd yn darbwyllo rhieni am y manteision o gael addysg Gymraeg.
"Mae angen i ni ddarbwyllo'r bobl ifanc bod addysg Gymraeg yn agor mwy o ddrysau o ran gyrfa.
"Ni yn colli rhai ond wrth ddweud hynny ni hefyd yn derbyn rhai o Sir G芒r a Cheredigion i gael addysg yn Ysgol y Preseli."
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Penfro bod colli plant o addysg Gymraeg yn "destun pryder".
Yn 么l yr awdurdod mae ganddyn nhw "ddyletswydd statudol" i ddarparu trafnidiaeth at yr ysgol 'addas' agosa' ac fe allai hyn fod yn ysgol "mewn awdurdod lleol arall".
Yn y cyfamser, dywedodd y llefarydd bod modd cadarnhau eu bod yn trafod agor rhagor o ysgolion cynradd Cymraeg yn ne Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2014
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018