大象传媒

Ymgyrch i ailagor tafarn ym Mhen Ll欧n

  • Cyhoeddwyd
TafarnFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tafarn yr Heliwr wedi bod ar gau ers 2009

Mae gr诺p cymunedol yn ffyddiog erbyn hyn y byddan nhw'n llwyddiannus wrth geisio ailagor drysau tafarn ym Mhen Ll欧n er lles y gymuned leol.

Ar un adeg roedd Tafarn yr Heliwr yn lle llawn bwrlwm yng nghanol Nefyn, ond mae'r drysau wedi bod ynghau ers 2009.

Mae'r gr诺p cydweithredol eisoes wedi llwyddo i brynu les yr adeilad ar 么l codi 拢85,000.

Bydd y dafarn y ail agor am dair awr ddydd Sadwrn er mwyn i bobl leol ymweld 芒'r lle a mynegi barn am ddyfodol yr adeilad a'r fenter.

Mae tua 500 o bobl wedi prynu cyfranddaliadau yn y fenter.

Erbyn hyn mae menter cydweithredol tebyg yng ngorllewin Cymru, Tafarn Sinc, wedi bod ar agor am flwyddyn, ac yn Eifionydd mae cynllun cydweithredol wedi ei lansio yn Llanystumdwy i ailagor Tafarn y Plu.

Dywedodd Elin Angharad Davies, ysgrifennydd a chyfarwyddwr Pwyllgor Tafarn yr Heliwr, y bydd dydd Sadwrn yn gyfle i bobl weld faint o waith sydd yna i'w wneud.

"A bydd o'n rhan o'r ymgynghoriad, mae'n gyfle i ddweud beth maen nhw am ei weld.

"Mae'n lle pwysig ar y Stryd Fawr, a bydd o yn dod 芒 mwy o fywyd i'r Stryd Fawr a bydd busnesau eraill yn gweld budd o ddod i dref Nefyn.

"Mae'n gyfle i bobl rhoi eu barn a dylanwadu."

Mae'r pwyllgor nawr yn cynnal cyfnod o ymgynghori yn lleol cyn penderfynu ar y camau nesa.

Dywedodd Ms Davies y bu'n rhaid i'r gr诺p lunio cynllun busnes cyn gallu gwneud yr ap锚l wreiddiol am gyfranddaliadau.

Ymhlith y syniadau yn y cynllun busnes roedd agor y dafarn fel caffi yn ystod y dydd a rhoi cwt cysgu neu bunkhouse ar lawr ucha'r adeilad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrch hefyd ar droed i ailagor Tafarn y Plu, Llanystumdwy

"Byddai caffi hefyd yn lle i bobl fynd yn ystod y dydd, ac yn lle i bobl sy'n teimlo yn unig i allu cyfarfod 芒 phobl eraill," meddai Ms Davies.

Dywedodd nad ydynt wedi pennu dyddiad eto ar gyfer ailagor y dafarn yn barhaol.

"Mae yna lot o ystyriaethau, gan gynnwys be mae pobl am ei weld yn digwydd i'r adeilad, a pha fath o grantiau a chymhorthdal sy' ar gael."

Mae aelodau'r pwyllgor hefyd wedi ymweld 芒 Tafarn Sinc yn Sir Benfro a Tafarn y Fic, Llithfaen sy'n dafarn gymunedol ers 30 o flynyddoedd.

"Roedd yna gyfle i ddysgu wrth ymweld 芒'r ddwy dafarn, a'r ddwy yn dweud eu bod yn barod i helpu, ac mae'n braf cael eu cefnogaeth. "