Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Geraint Thomas yn Bersonoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru 2018
Mae Geraint Thomas wedi cael ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru 2018, a hynny am yr eildro.
Daeth y seiclwr i'r brig yn y bleidlais gyhoeddus yn dilyn blwyddyn ddisglair ble llwyddodd i ennill y Tour de France am y tro cyntaf.
Y chwaraewr snwcer Mark Williams ddaeth yn ail, a hynny wedi iddo ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd am y trydydd gwaith.
Yn drydydd oedd Laura Deas, a enillodd fedal efydd yn y gystadleuaeth sgerbwd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn PyeongChang, De Corea.
Concro'r Alpe d'Huez
Roedd Thomas, 32, yn ffefryn clir ar gyfer y wobr yn dilyn blwyddyn ble llwyddodd i ennill ras enwocaf yn y byd seiclo.
Y g诺r o Gaerdydd oedd y Cymro cyntaf erioed, a dim ond y trydydd beiciwr o Brydain, i ennill y Tour de France.
Ymhlith ei uchafbwyntiau yn ystod y ras dair wythnos o hyd oedd ei fuddugoliaeth ar lethrau'r Alpe d'Huez yn y 12fed cymal.
Doedd Thomas ddim hyd yn oed yn brif feiciwr i Team Sky ar ddechrau'r ras, ond gyda Chris Froome ddim ar ei orau fe adeiladodd y Cymro ddigon o fantais i sicrhau'r crys melyn.
Ar 么l cael ei goroni'n bencampwr ar y Champs Elysses ym Mharis, dychwelodd Thomas i Gymru ble roedd miloedd o gefnogwyr yn aros i'w groesawu ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Dyma'r ail waith i Thomas ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru, wedi iddo ddychwelyd o Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 gyda dwy fedal gan gynnwys aur yn y ras ffordd.
Yn ail yn y wobr eleni oedd Mark Williams, a sicrhaodd fuddugoliaeth annisgwyl ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd wrth drechu John Higgins 18-16 yn y Crucible yn Sheffield.
Daeth y fuddugoliaeth honno 18 mlynedd wedi iddo ennill y tlws am y tro cyntaf, a 15 mlynedd ers iddo'i gipio ddiwethaf.
Roedd 2018 hefyd yn flwyddyn nodedig i Laura Deas, wrth iddi ddod y person cyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Y tri arall ar y rhestr fer ar gyfer y brif wobr oedd y p锚l-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker a'r sg茂wr Menna Fitzpatrick.
Cafodd y wobr ei hennill y llynedd gan y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, a hynny wedi iddo serennu ar daith y Llewod i Seland Newydd.
Ymhlith yr enillwyr eraill ar y noson roedd Jayne Ludlow, gafodd ei henwi'n Hyfforddwr y Flwyddyn ar 么l arwain t卯m p锚l-droed merched Cymru o fewn un g锚m i gyrraedd Cwpan y Byd.
Fe aeth gwobr T卯m y Flwyddyn i d卯m hoci ia Devils Caerdydd, a lwyddodd i ennill y Gynghrair El卯t am yr ail dymor yn olynol.
Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i'r Baralympwraig Tanni Grey Thompson, a dderbyniodd Wobr Cyfraniad Oes.