Cyhoeddi aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae enwau aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael eu datgelu mewn cyhoeddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Fe wnaeth 480 o ymgeiswyr sefyll mewn etholiadau ar draws y 40 etholaeth sy'n cyfateb i etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae 20 aelod pellach wedi cael eu dewis gan sefydliadau eraill gan gynnwys Tros Gynnal Plant, Barnardos Cymru, Youth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru gyda'r nod o sicrhau amrywiaeth a hawliau cynhwysol i'r corff newydd.
Mae'r 60 aelod sydd wedi eu dewis yn cynnwys 24 o fechgyn a 36 o ferched.
'Torri tir newydd'
Cafodd yr etholiadau eu cynnal gydol mis Tachwedd gyda miloedd o bobl ifanc 11-18 oed yn bwrw'u pleidlais yn electroneg.
Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wnaeth lansio'r ymgyrch i sefydlu Senedd Ieuenctid.
"Dyma gyfle euraidd i rymuso'r genhedlaeth nesaf ac rwy'n hyderus y bydd y gr诺p hwn yn hyrwyddwyr gwych ar gyfer y materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru heddiw," meddai.
Ychwanegodd wrth raglen Eye On Wales, 大象传媒 Radio Wales: "Mae cefnogaeth drawsbleidiol i sefydlu ac ethol senedd ieuenctid, ac mae'n deg dweud bod cryn dipyn o gyffro yn ein plith fel ACau fod cymaint o bobl ifanc wedi rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr yn eu cymunedau.
"Mae'r etholiad yn torri tir newydd fel y senedd ieuenctid cyntaf i gael ei ethol yn uniongyrchol yn electroneg, felly ry'n ni wedi ei gwneud hi mor hawdd a chyffyrddus 芒 phosib i bobl ifanc bleidleisio yn yr etholiad yma."
Yn unol 芒 chasgliadau panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol, mae cynlluniau ar gyfer cyfraith newydd fydd yn caniat谩u i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.
Yr Athro Laura McAllister oedd cadeirydd y pwyllgor, a dywedodd: "O edrych ar y dystiolaeth mae cyfleoedd i gau'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng pobl ifanc a'r dosbarth gwleidyddol - mae'r bwlch yn enfawr yn nhermau sut y mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhan o wleidyddiaeth nawr a faint o gyfle sydd iddyn nhw fod yn rhan ohono."
Ychwanegodd fod gwell addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yn rhan hanfodol o leihau'r oed pleidleisio.
"O weld sut mae'n cael ei ddysgu mewn ysgolion... ymwybyddiaeth pobl ifanc o hawliau'r unigolyn i bleidleisio, sut mae pleidleisio, sut mae pwyso a mesur addewidion maniffesto, gwrando ar ddarllediadau gwleidyddol - y gwir amdani yw ein bod yn gadael pobl ifanc heb yr arfau sydd eu hangen i wneud y pethau yna," meddai.
Bydd aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd, ac fe fydd eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2019 yn y Senedd.
Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru:
Gogledd Cymru
Ynys M么n - Ifan Wyn Erfyl Jones
Arfon - Brengain Glyn Williams
Aberconwy - Evan Burgess
Gorllewin Clwyd - Harrison James Gardner
Dyffryn Clwyd - Jonathon Dawes
Delyn - Thomas Comber
Alun a Glannau Dyfrdwy - Nia Griffiths
Wrecsam - Jonathan Powell
De Clwyd - Talulah Thomas
Dwyfor Meirionnydd - Ifan Price
Sir Drefaldwyn - Abbey Carter
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Grace Barton
Anabledd Dysgu Cymru - Katie Whitlow
Tros Gynnal Plant - Hasna Ali
Canolbarth Cymru
Ceredigion - Caleb Rees
Brycheiniog a Sir Faesyfed - Arianwen Fox-James
Preseli Penfro - Rhys Lewis
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - Cai Thomas Phillips
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - Marged Lois Campbell
Llanelli - Megan Carys Davies
Tros Gynnal - Ellie Murphy
Gorllewin De Cymru
G诺yr - Ffion-H芒f Davies
Gorllewin Abertawe - Ubayedhur Rahman
Dwyrain Abertawe - Ruth Sibayan
Castell-nedd - Eleanor Lewis
Aberafan - Kian Agar
Ogwr - Laine Woolcock
Pen-y-bont ar Ogwr - Todd Murray
Rhondda - Alys Hall
Cwm Cynon - Eleri Griffiths
Pontypridd - Efan Rhys Fairclough
Bro Morgannwg - Lleucu Haf Wiliam
Talking Hands - William Hackett
Girlguiding Cymru - Nia-Rose Evans
Anabledd Dysgu Cymru - Anwen Rodaway
Talking Hands - Sophie Billinghurst
T卯m Cefnogi Ieuenctid Ethnig/RCC - Sandy Ibrahim
Barnardo's Cymru - Caitlin Stocks
Barnardo's Cymru - Casey-Jane Bishop
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Oliver Davies
Dwyrain De Cymru
Gorllewin Caerdydd - Manon Clarke
Gogledd Caerdydd - Betsan Angell Roberts
Canol Caerdydd - Gwion Rhisiart
De Caerdydd a Phenarth - Rhian Shillabeer
Merthyr Tudful a Rhymni - Tommy Church
Blaenau Gwent - Calen Jones
Torfaen - Maisy Evans
Sir Fynwy - Lloyd Mann
Caerffili -Aled Joseph
Islwyn - Ffion Griffith
Gorllewin Casnewydd - Finlay Bertram
Dwyrain Casnewydd - Charley Oliver-Holland
EYST/Cyngor Hil Cymru - Angel Ezeadum
Urdd Gobaith Cymru - Greta Evans
Youth Cymru - Abbie Cooper
Voices from Care - Chloe Giles
Youth Cymru - Levi Rees
Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili - Luke Parker
Barnardo's Cymru - Abby O'Sullivan
NYAS Cymru - Carys Thomas
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018