大象传媒

Galw am newid agweddau pobl tuag at gyflwr OCD

  • Cyhoeddwyd
OCDFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae dioddefwyr OCD yn galw ar bobl i fod yn fwy ystyriol o unigolion sydd 芒'r cyflwr, ac i waredu'r stigma sydd ynghlwm ag ef.

Anhwylder gorbryder yw anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) a nodweddir gan feddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol.

Yn 么l yr elusen OCD-UK roedd tua 36,000 o Gymry yn byw gydag OCD yn 2017 - a rhwng 1-2% o boblogaeth Prydain.

Dywedodd Elis Derby, sy'n byw gyda'r cyflwr, fod OCD "yn cael ei gamystyried yn ofnadwy" a bod angen i bobl "beidio 芒 chysylltu OCD hefo'r stigma o fod yn 'ffysi'".

Mae ymddygiad a meddyliau ailadroddus unigolion sy'n byw ag OCD yn gallu cael ei weld yn afresymol, ond nid oes modd ei anwybyddu.

Mae difrifoldeb y cyflwr yn amrywio ond gyda chymorth a chefnogaeth mae modd ei drin - heb driniaeth mae peryg i'r symptomau fynd yn fwy difrifol, yn 么l llefarydd ar ran OCD-UK.

Ychwanegodd fod y Gwasanaeth Iechyd yn cynnig dau fath o driniaeth ar gyfer OCD, ond bod nifer yn ei chael hi'n anodd derbyn triniaeth o ansawdd ddigonol, neu yn gorfod aros amser hir.

Symptomau OCD (yn 么l meddwl.org)

  • Ofn haint

  • Ofn niweidio rhywun arall

  • Ofn ymddwyn yn annerbyniol

  • Angen cymesuredd a manwl gywirdeb

  • Eich meddwl yn cael ei 'feddiannu' gan feddyliau erchyll dro ar 么l tro

  • Yn ofnus, wedi'ch ffieiddio, yn euog, yn ddagreuol, yn betrus neu'n isel

  • Cymhelliad pwerus i wneud rhywbeth i atal y teimladau

  • Rhyddhad dros dro ar 么l cyflawni defodau

  • Yr angen i ofyn am sicrwydd neu i gael pobl i gadarnhau pethau i chi

Daeth Mr Derby, sy'n 22 oed a bellach yn byw ym Manceinion, yn ymwybodol ei fod yn byw gyda ffurf o OCD oddeutu pum mlynedd yn 么l.

"Dwi'n cofio hyd yn oed ers bod yn yr ysgol gynradd fy mod yn teimlo ysfa i gadw popeth mewn ffyrdd penodol, er mwyn tawelu'r meddwl - ond dechreuais gael symptomau penodol pan roeddwn yn gweithio ar fy arholiadau TGAU.

"Roeddwn yn teimlo mai fi oedd yr unig un oedd yn dioddef fel yr oeddwn i, felly pan ffeindiais allan bod yna filoedd eraill fel fi, roedd yn fymryn o ryddhad."

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Mae Mr Derby wedi ysgrifennu blog am ei brofiadau o fyw gyda'r cyflwr, rhywbeth gafodd ei ysgogi ar 么l clywed rhywun yn dweud "I'm a little bit OCD" wrth gyfeirio at y ffordd yr oeddent yn hoffi cael popeth mewn trefn.

"Nid yw OCD yn derm y gallwch daflu o gwmpas fel y mynnwch, a ni ddylir gael ei ddefnyddio oni bai eich bod wirioneddol yn dioddef ohono," meddai.

"Pa mor aml y bysech yn clywed 'I've got a little bit of depression' neu 'a little bit of anorexia'? Ddim yn aml iawn 'swn i'm yn credu, felly pam cael yr un agwedd tuag at OCD?"

'Sori, mae gen i OCD'

"Rwy'n cofio un tro lle roedd rhaid i mi gael tacsi yn 么l i'r fflat wedi nifer o blyciau drwg. Wrth bwyntio i le roeddwn eisiau mynd i'r gyrrwr, mi aeth yn flin iawn gan fy mod yn 'gwastraffu ei amser' oherwydd nid oedd yn daith yn bell iawn.

"Doedd geni'm yr awydd gwneud iddo deimlo'n annifyr drwy esbonio'r gwir reswm yr oeddwn wedi gofyn am ei wasanaeth, felly ni ddywedais dim, ond mi wnaeth i mi deimlo'n flin iawn."

Ychwanegodd: "Rwyf wedi cael ambell ddiwrnod pan rwyf wedi bod yng nghanol pobl ar stryd brysur ym Manceinion, a bod y symptomau wedi fy hitio yn sydyn heb rybudd. 'Dwi'n cael lot o 'funny looks', ac erbyn hyn rwy'n bod yn agored ac yn esbonio 'Sori, mae gen i OCD'."

Disgrifiad,

Dywedodd Iestyn Wyn ei bod hi wedi cymryd bron i wyth mlynedd iddo dderbyn diagnosis cywir o'r hyn yr oedd yn ei brofi.

Un arall sydd yn byw gyda'r cyflwr yw Iestyn Wyn o Ynys M么n, sy'n credu fod diffyg trafodaeth a gwybodaeth am OCD yn golygu bod pobl yn mynd am flynyddoedd yn delio 芒'r cyflwr heb wybod mai dyna yw'r broblem.

"Y peth gwaetha am OCD ydy bod y cyflwr yn taflu'r pethau gwaetha posib at yr unigolyn, ac o ganlyniad mae'n rhaid i'r person gael gwared 芒'r pryder drwy wneud gweithredoedd i niwtraleiddio'r meddyliau.

"Cymrodd bron i wyth mlynedd i mi dderbyn diagnosis cywir o'r hyn oeddwn i'n ei brofi. Pam? Diffyg ymwybyddiaeth bersonol? Gweithwyr proffesiynol methu a chydnabod y symptomau? Cywilydd o gyffesu'r fath meddyliau? Cymysgedd."

'Canlyniadau peryg a difrifol'

Ychwanegodd Mr Wyn: "Rhaid cyfaddef, oeddwn i yn un o'r rhai oedd yn defnyddio'r dweud llac o 'dwi bach yn OCD'. Newidiodd hynny yn syth ar 么l y diagnosis. Yn syml, mae OCD yn cael ei weld fel un o'r 10 cyflwr fwyaf gwanychol yn 么l Sefydliad Iechyd y Byd.

"Felly, pam defnyddio salwch mor ddifrifoli i egluro'r ffordd mae pobl yn hoffi bod yn daclus neu'n drefnus? Mae'r canlyniad o ddibwyso OCD yn beryg ac yn ddifrifol.

"Rydym erbyn hyn fel cymdeithas yn llawer mwy agored wrth drafod ein hiechyd meddwl, ond mae rhaid i ni fynd yn bellach na' hynny.

"Yndi, mae agweddau ac ymdriniaeth cymdeithas o OCD a chyflyrau tebyg yn newid - ond nid yw'r daith eto ar ben."

'Angen gwneud mwy'

Mae'r elusen OCD Action yn credu fod angen gwneud mwy ar gyfer gwella safon y gefnogaeth a'r driniaeth sydd ar gael, yn ogystal 芒 chynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyffredinol am y cyflwr.

Dywedodd llefarydd: "Mae OCD yn gyflwr sy'n cael ei gamddeall yn aml, ac yn anffodus mae hi'n hynod gyffredin clywed pobl yn defnyddio'r cyflwr fel ansoddair i ddisgrifio rhywun sy'n daclus, ond mae'r gwirionedd i bobl sy'n byw gydag OCD yn dra gwahanol.

"Mae'r portreadau ffug yma yn gallu rhwystro pobl sydd wir yn cael eu heffeithio gan y cyflwr rhag edrych am gymorth.

"Mae'r pryder yma o beidio cael eu cymryd o ddifrif yn arwain at fwy o anwybodaeth a diffyg dealltwriaeth sy'n achosi unigolion eraill i ddioddef mewn tawelwch."