Diwedd cytundeb cyngor ar bentref llesiant Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir G芒r wedi dweud ei fod yn ymbellhau oddi wrth gwmni gafodd ei ddewis i ddatblygu un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn ne orllewin Cymru.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar Bentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant gwerth 拢200m yn Llanelli.
Dywedodd swyddogion y byddai'n creu hyd at 2,000 o swyddi ac yn rhoi hwb o 拢467m i'r economi dros 15 mlynedd.
Ond dywedodd y cyngor ei fod yn dirwyn cytundeb cydweithio i ben gyda Sterling Health Security Holdings.
Mewn cyfarfod cyngor fis diwethaf galwodd arweinydd y gr诺p Llafur, Rob James, am fwy o fanylion am pam y cafodd y cwmni ei ddewis fel partner i'r cynllun.
Mae'r prosiect yn rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe - a bydd yn cael 拢40m o'r cytundeb hwnnw.
Fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r DU gyhoeddi "adolygiad annibynnol cyflym" i'r fargen ddinesig ddydd Iau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir G芒r, Emlyn Dole, y byddai'r cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe, i ddatblygu'r pentref.
Mae Sterling Health wedi cael cais am sylw gan 大象传媒 Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018