Hen ffilmiau a chyfresi S4C i fod ar gael ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd detholiad o hen gyfresi a ffilmiau poblogaidd y sianel ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-alw.
Bydd gwylwyr yn gallu edrych ar 'box sets' fel Con Passionate, Nyth Cacwn a 35 Diwrnod ar am y tro cyntaf o 15 Rhagfyr.
Bydd hefyd modd gwylio ffilmiau fel Porc Pei, Hedd Wyn, Tair Chwaer - Cymer Dy Si芒r, ac Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig.
Dywedodd y sianel y bydd rhagor o raglenni yn cael eu hychwanegu i Clic yn y flwyddyn newydd.
Bydd rhaglenni ar gael i'w gwylio am 150 diwrnod a bydd hefyd modd gwylio rhaglenni newydd ar Clic cyn eu bod nhw'n cael eu darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.
'Pwysig iawn i ddatblygiad S4C'
"Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i wylio eu hoff raglenni a ffilmiau, ac rydym yn falch iawn i lansio gwasanaeth boxsets Clic yn ystod cyfnod yr 诺yl," meddai Owen Evans, prif weithredwr S4C.
"Mae'r ffordd mae pobl yn gwylio ein cynnwys wedi gweddnewid ac mae'n bwysig bod ein rhaglenni ar gael i'w gwylio ar lwyfannau digidol.
"Mae defnyddwyr S4C Clic nawr yn gallu gwylio hen gyfresi S4C a rhai newydd mewn ffurf box-set ac mae hynny'n bwysig iawn i ddatblygiad y gwasanaeth."