´óÏó´«Ã½

Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn ymddeol yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro John Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro John Hughes wedi bod yn is-ganghellor y brifysgol ers 2010

Mae Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y swydd ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Roedd wedi cyhoeddi'n flaenorol y byddai'n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.

Ond ddydd Mawrth cafodd staff wybod y bydd yr Athro Hughes yn gadael ei swydd yn gynt na'r disgwyl ar ddiwedd y mis.

Mae ´óÏó´«Ã½ Cymru ar ddeall fod y cyhoeddiad wedi dod ddiwrnod ar ôl i'r is-ganghellor ymddiheuro i staff ar ôl i rai ohonyn nhw dderbyn e-bost gyda manylion honedig am ei fywyd personol.

Yn ôl yr Athro Hughes roedd y manylion hyn wedi eu "haddasu".

Mae Prifysgol Bangor wedi gwrthod gwneud sylw ar yr e-byst honedig.

Mewn e-bost at staff y brifysgol ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones, fod "nifer o heriau sy'n wynebu'r brifysgol" yn rhai sy'n ymwneud â "strategaeth, cyfeiriad a llwyddiant hirdymor y brifysgol".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Sian Gwenllian AC/AM

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Sian Gwenllian AC/AM

'Cytuno i ymddeol ynghynt'

Aeth ymlaen i ddweud: "Daethom i'r casgliad y byddai'n fanteisiol i'r materion gael eu delio gan dîm fydd yn gallu ymdrin â'r newidiadau nid yn unig yn y misoedd i ddod, ond i'r flwyddyn academaidd nesaf.

"O ganlyniad, mae'r Athro Hughes wedi cytuno i ymddeol ynghynt..."

Daw ymddeoliad cynnar yr is-ganghellor ar gyfnod o arbedion i'r brifysgol.

Yn ôl ym mis Hydref cafodd staff wybod fod y brifysgol yn ystyried diswyddo gorfodol.

Yn ôl yr e-bost gan Marian Wyn Jones bydd "y brifysgol yn hysbysebu yn fuan am olynydd".

Ychwanegodd: "Yn y cyfamser, bydd yr Athro Graham Upton yn cael ei benodi'n Is-ganghellor Gweithredol o 1 Ionawr."

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw