大象传媒

Mark Drakeford yn tyngu llw fel Prif Weinidog Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Mr Ustus Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhaid i Mr Drakeford dyngu llw o flaen yr uwch farnwr Mr Ustus Lewis

Yn dilyn seremoni ym Mae Caerdydd, mae hi bellach yn swyddogol mai Mark Drakeford yw Prif Weinidog newydd Cymru.

Fe dyngodd Mr Drakeford ei lw gerbron yr uwch farnwr, Mr Ustus Lewis ar 么l i'r Frenhines gadarnhau'r penodiad.

Cafodd ei gadarnhau fel prif weinidog nesaf Cymru yn dilyn pleidlais gan ACau ddydd Mercher.

Daeth y cyn-ysgrifennydd Cyllid yn arweinydd ar Llafur Cymru ar 么l trechu Vaughan Gething ac Eluned Morgan mewn etholiad wythnos ddiwethaf.

Mae posib iddo nawr ddechrau ar y gwaith o benderfynu ar aelodau'r cabinet newydd.