Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor M么n yn cadarnhau y bydd dwy ysgol gynradd yn cau
Mae Cyngor M么n wedi cadarnhau y bydd dwy ysgol gynradd ar yr ynys yn cau, er gwaethaf gwrthwynebiad.
Roedd ymgyrchwyr lleol wedi casglu deiseb 芒 dros 5,000 o lofnodion er mwyn ceisio achub Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddai'r penderfyniad yn arwain at "golli rhagor o gymunedau gwledig Cymraeg".
Ond dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd modd "eithrio addysg rhag toriadau" bellach.
'Yn groes i'r gymuned'
Ym mis Ebrill eleni fe wnaeth pwyllgor gwaith y cyngor gymeradwyo cynlluniau i gau'r ddwy ysgol, ond cadw Ysgol Henblas ar agor.
Byddai disgyblion Bodffordd a Chorn Hir wedyn yn cael eu symud i ysgol ardal newydd gwerth 拢10m yn Llangefni.
Fe wnaeth ymgyrchwyr gyhuddo'r cyngor o fynd yn groes i god newydd Llywodraeth Cymru sydd o blaid cadw ysgolion bychain ar agor.
Ond ddydd Llun, yn dilyn cyfnod o ymgynghori, fe wnaeth y pwyllgor roi'r s锚l bendith i'w penderfyniad blaenorol.
Mewn ymateb, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i ymyrryd.
"Os gellir cau ysgol wledig Gymraeg llawn yn groes i ddymuniadau'r gymuned leol a pheryglu dyfodol yr unig ganolfan gymunedol yn y broses, a hynny heb ddilyn gofynion yr hen god trefniadaeth ysgolion, heb s么n am y newydd, yna does fawr ddim gobaith i unrhyw ysgolion gwledig yng Nghymru," meddai Ffred Ffransis o gr诺p addysg Cymdeithas yr Iaith.
"Byddwn yn colli rhagor o gymunedau gwledig Cymraeg o hyd."
'Penderfyniad anodd'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor M么n: "Wrth wneud penderfyniad ynghylch Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, cydymffurfiwyd 芒'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Byddwn yn parhau i gydymffurfio gyda'r cod diwygiedig i'r dyfodol.
"Gyda thoriadau sylweddol yng nghyllideb awdurdodau lleol, fodd bynnag, nid oes modd bellach i eithrio addysg rhag toriadau.
"Er yn benderfyniadau anodd tu hwnt, rydym hefyd yn ffyddiog bod ein penderfyniadau diweddar wedi eu seilio ar dystiolaeth gadarn ac wedi eu gwneud er budd cyfundrefn addysg yr ynys gyfan."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio 芒 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a darpariaethau statudol Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy'n berthnasol yn yr achos hwn.
"Nid yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig a gynhwysir yn ein cod Trefniadaeth Ysgolion newydd yn gymwys yn 么l-weithredol i achosion lle cyhoeddwyd ymgynghoriad ar gynnig cyn i'r cod ddod i rym ar 1 Tachwedd 2018.
"Fel ym mhob achos, gellir cyfeirio penderfyniadau a gymeradwywyd neu a wrthodwyd gan awdurdod lleol at weinidogion Cymru, ac felly ni fyddai'n briodol rhoi sylwadau nac ymyrryd ar hyn o bryd yn y broses statudol."