Eitem Ffermio yn ysbrydoli mam i feichiogi'n llwyddianus

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Lowri Jones fod yr eitem ar raglen Ffermio wedi ei hysbrydoli i chwilio am driniaeth

Mae dynes a gollodd bump o fabanod yn y groth yn dweud ei bod wedi llwyddo i feichiogi'n llwyddiannus eto ar 么l cael ei hysbrydoli gan raglen am feichiogrwydd mewn gwartheg.

Yn dilyn genedigaeth ei mab cyntaf yn 2011, fe aeth Lowri Jones o Langwm, Sir Conwy, drwy sawl beichiogrwydd aflwyddiannus.

Ym mis Hydref 2014, gwelodd Ms Jones eitem ar raglen Ffermio ar S4C lle'r oedd y milfeddyg Cen Williams yn egluro'r cysylltiad rhwng lefelau thyroid 茂odin anghyson a phroblemau beichiogrwydd mewn gwartheg.

Mae nawr wedi "diolch o waelod calon" am y cyngor wnaeth ei harwain at allu rhoi genedigaeth i'w hail fab, Gwil.

Lefelau 茂odin

Dywedodd Ms Jones: "Dwi wir yn meddwl os na fyswn wedi gweld yr eitem, fysa Gwil ddim yma efo ni heddiw."

Yn yr eitem a welodd Lowri Jones ar y teledu, roedd Cen Williams yn esbonio bod cyfnodau o dywydd gwlyb yn gallu golchi 茂odin allan o'r tir, a bod "diffyg 茂odin yn niet gwartheg yn creu hafoc 芒 lefelau thyroid".

"Ar 么l ychwanegu 茂odin i ddiet gwartheg, roedd gwelliant amlwg yng nghyfraddau beichiogrwydd," ychwanegodd.

Roedd Ms Jones wedi cael problemau gyda'i thyroid yn y gorffennol, ac fe ddechreuodd ystyried y posibilrwydd bod yr un cysylltiad rhwng problemau beichiogi a lefelau thyroid isel yn bosib mewn menywod.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lowri Jones o'r farn na fyddai ei mab Gwil (ar y dde) yma heddiw petai hi heb weld yr eitem

Dywedodd Lowri Jones ei bod wedi dechrau ychwanegu 茂odin i'w diet yn syth ar 么l gwylio'r rhaglen, gan yrru o'i chartref yn Uwchaled i'r Rhyl y bore trannoeth er mwyn prynu halen oedd yn cynnwys 茂odin.

Yn ychwanegol i hynny, dywedodd Lowri ei bod yn "cofio recordio'r eitem rhwng Cen a Daloni ar yr iPad, a mynd 芒 fo at y meddyg teulu i ddangos iddo".

Ar 么l hynny cafodd ei chyfeirio at arbenigwr thyroid yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, ac yn fuan wedyn, fe ddisgynnodd yn feichiog eto.

Ar 么l parhau gyda'r 茂odin ychwanegol yn ei diet dan ofal yr ymgynghorydd thyroid yn Ysbyty Maelor, cafodd ei hail fab, Gwil, ei eni naw mis yn ddiweddarach.

"Dwi isho diolch o waelod calon i Cen am fy ysbrydoli i fynnu mwy o brofion meddygol," meddai.

"Ro'n i'n gwybod fod 'na rhywbeth yn bod efo fi, ond cyn hyn, cwbl oedd y doctoriaid yn ddweud wrtha i oedd fy mod angen Duw ar fy ochr."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Lowri Jones yn "falch iawn" o gael diolch yn bersonol i Cen Williams

Mae Lowri yn gobeithio y gall rhannu ei phrofiad arwain at ferched eraill sydd yn yr un sefyllfa i fynnu ymchwiliadau meddygol pellach er mwyn goresgyn problemau beichiogrwydd.

"Dwi wir yn ystyried Cen yn rhan fawr o fywyd Gwil r诺an, achos dwi wir yn meddwl os na fyswn i wedi gweld yr eitem, fysa Gwil ddim yma efo ni heddiw."

Dywedodd un meddyg teulu fod cysylltiad uniongyrchol rhwng problemau beichiogrwydd a lefelau thyroid anghyson.

"Mai'n ffaith feddygol fod lefelau isel o'r hormon thyroid yn gallu arwain at broblemau beichiogi," meddai Dr Gwilym Si么n Pritchard o feddygfa Waunfawr wrth 大象传媒 Cymru Fyw.

"Mae'r chwarren thyroid mewn cysylltiad uniongyrchol a'r ofar茂au, debyg iawn i thermostat, ac fe all amharu ar ddatblygiad yr embryo, a sut mae'r embryo yn ymblannu yn nyddiau cynnar y beichiogrwydd."