Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brexit: Llywodraeth Cymru'n 'dwys谩u' paratoadau
Bydd Llywodraeth Cymru yn "dwys谩u" ei pharatoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, am fod Theresa May yn "methu dod i delerau derbyniol".
Yn 么l Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, byddai'n "fethiant trychinebus" pe na bai cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Mrs May wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "gefnogi" cynllun y DU a'r UE.
Wedi'r cyfarfod, dywedodd Mr Drakeford y byddai'n well ganddo weld refferendwm arall, gyda'r penderfyniadau'n "dychwelyd i'r bobl" yn hytrach na wynebu Brexit heb gytundeb.
Ddydd Mawrth, dywedodd Llywodraeth y DU bod 3,500 o filwyr ar alw i gynorthwyo ag unrhyw drafferthion allai godi yn sgil Brexit.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson, wrth ASau yn Nh欧'r Cyffredin bod y milwyr, gan gynnwys logistegwyr a pheirianwyr yn ogystal 芒 milwyr traed, yn barod pe bai angen.
Daeth ei sylwadau yn dilyn penderfyniad cabinet Theresa May i roi 拢2bn wrth gefn petai ASau yn gwrthod y cytundeb Brexit a bod y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth heb gytundeb.
Arweinwyr yn cwrdd
Gyda nifer o ASau yn gwrthwynebu ei chytundeb, mae Mrs May wedi gohirio pleidlais dros y cytundeb yn Nh欧'r Cyffredin tan o leiaf 14 Ionawr.
Fydd Mr Drakeford ddim nawr yn cyfarfod gyda Mrs May ddydd Mercher am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi i'w r么l newydd.
Roedd yr arweinwyr wedi trefnu cyfarfod yn Downing Street cyn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a fyddai hefyd wedi cynnwys Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, a swyddogion Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Mr Drakeford: "Byddai Brexit heb gytundeb yn fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth y DU.
"Fodd bynnag, mae'n glir fod yr anhrefn anniben sy'n amgylchynu'r cynnig sydd gan y Prif Weinidog yn ein symud tuag at sefyllfa fydd yn achosi difrod sylweddol, peryglu swyddi a bywoliaeth pobl.
"Rydym wedi bod yn paratoi am Brexit digytundeb, wrth iddi ddod yn fwyfwy amlwg bod Llywodraeth y DU yn methu trafod cytundeb derbyniol. Byddwn yn dwys谩u ein gwaith i ddatblygu cynlluniau wrth gefn.
"Ni allwn baratoi Cymru ar ein pennau ein hunain. Rydym wedi bod yn glir bod angen i Lywodraeth y DU weithio gyda ni i sicrhau'r dd锚l orau ar gyfer y DU i gyd."
Wrth siarad ar y Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Brexit, Jeremy Miles y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn "drychineb".
"Mae'r paratoadau ar gyfer hynny wedi bod yn mynd rhagddyn nhw ers sbel. Ni ddim moyn gweld hynny fel canlyniad - rhaid bod yn glir iawn am hynny.
"Ond mae'n gyfrifoldeb arnom ni fel llywodraeth i baratoi ar gyfer y gwaethaf tra'n gweithio ar gyfer gwell canlyniad."
Yn ogystal, dywedodd Mr Drakeford y byddai'n well ganddo weld refferendwm arall na wynebu Brexit heb gytundeb: "Credaf mai [Brexit] heb gytundeb byddai'r peth mwyaf trychinebus o safbwynt Cymru.
"Byddai'n well gen i fod y penderfyniad yn dychwelyd i'r bobl iddynt gael dweud eu dweud am yr ystod eang o bosibiliadau a all fod yn rhan o'r peth. Ond mae yna nifer o bethau rhwng yma a draw fan 'co."
Dywedodd Theresa May: "Rwy'n hyderus y bydd yr hyn a gytunwyd yn gweddu'r DU i gyd.
"Mae'r cytundeb yn anrhydeddu canlyniad y refferendwm - i reoli ein harian, cyfreithiau a ffiniau, amddiffyn swyddi a bywoliaethau, a rhyddhau'r DU i daro cytundebau masnachu newydd gyda gwledydd o amgylch y byd.
"O Ffederasiwn Pysgotwyr yr Alban a Diageo, i Airbus a Manufacturing NI, mae busnesau a diwydiannau ar hyd y DU eisiau gweld ni'n gwireddu'r cytundeb yma am ei fod yn rhoi'r eglurder a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnynt i amddiffyn swyddi a safonau byw.
"Felly mae fy neges i'n glir: mae hi nawr yn amser i ni ddod ynghyd a chefnogi'r cytundeb ac adeiladu dyfodol disglair i bobl ar hyd a lled y DU."