Honiad o 'aflonyddu' yn erbyn Is-ganghellor Prifysgol Bangor

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro John Hughes wedi bod yn is-ganghellor y brifysgol ers 2010
  • Awdur, Aled ap Dafydd
  • Swydd, Prif Ohebydd Newyddion 9

Mae Newyddion 9 wedi cael ar ddeall fod cwyn o aflonyddu wedi ei wneud yn erbyn Is-ganghellor Prifysgol Bangor.

Mae cyn-bartner Yr Athro John Hughes yn honni hefyd i'w g诺r newydd dderbyn neges a oedd yn "hiliol" ac yn "rhywiaethol" gan yr Is-ganghellor.

Bydd yr Athro Hughes yn gadael ei swydd ar ddiwedd y mis - yn gynt na'r disgwyl - ar 么l i rai aelodau staff dderbyn e-byst yr wythnos diwethaf gyda manylion honedig am ei fywyd personol.

Cafodd yr un e-byst eu hanfon ymlaen at y brifysgol 'n么l yn 2016.

Dywedodd y brifysgol bod "camau wedi'u cymryd ar y pryd" yn dilyn cwyn gan ei gyn-bartner Xinyu Wu ddwy flynedd yn 么l.

'10 mlynedd yn iau na ti'

Mae 大象传媒 Cymru wedi gweld yr e-byst gafodd eu hanfon ymlaen gan Ms Wu at rai aelodau o gyngor y brifysgol.

Mewn un neges at bartner newydd Ms Wu, o gyfrif LinkedIn yr Athro Hughes, mae'n ymddangos ei fod wedi ysgrifennu: "Da iawn m锚t. Ges i ei hieuenctid a'i phrydferthwch, gei di ei menopos a'i henaint (wyt ti 'di gweld sut mae merched Tsieineaidd yn heneiddio!)"

Mae e-bost arall at Ms Wu, o gyfrif Prifysgol Bangor yr Athro Hughes, yn dangos llun o'r Is-ganghellor gyda'i bartner newydd gyda neges yn dweud: "10 mlynedd yn iau na ti."

Dywedodd Ms Wu wrth 大象传媒 Cymru bod y negeseuon "nid yn unig yn aflonyddu ond yn oedraniaethol, rhywiaethol a hiliol".

Yn 么l yr Athro Hughes roedd yr e-byst wedi eu "haddasu" ac fe ymddiheurodd am "unrhyw ofid neu bryder" oedd wedi ei achosi.

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr Athro Hughes wedi cyhoeddi'n wreiddiol y byddai'n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon

Mewn datganiad yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd: "Mae'r negeseuon sydd ynghlwm 芒'r e-bost hwn, sy'n dyddio o 2016, wedi cael eu haddasu ac, er nad wyf am fynd i mewn i fanylion ynghylch yr hyn sy'n amlwg yn fater personol iawn, roeddwn am eich sicrhau nad yw'r negeseuon yr hyn y maen nhw'n ymddangos."

Nid yw'r Athro Hughes wedi ymateb i gwestiynau pellach gan 大象传媒 Cymru.

Ar 么l derbyn yr e-byst yn 2016, fe gwynodd Ms Wu i'r brifysgol am ymddygiad yr Athro Hughes, gan ddweud: "Mae'n ddrwg gen i am anfon yr e-bost hwn atoch chi, ond all rhywun pl卯s stopio'r Is-ganghellor rhag ein haflonyddu ni dro ar 么l tro a niweidio'r brifysgol."

Gan gyfeirio at y g诺yn, fe ddywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod y "mater wedi ei ddatrys" a bod "dim gohebiaeth wedi bod ers hynny".