大象传媒

Jess Fishlock yn derbyn yr MBE ym Mhalas Buckingham

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jess Fishlock wedi chwarae 101 o weithiau i Gymru

Mae'r chwaraewr p锚l-droed sydd wedi chwarae'r nifer mwyaf o gemau dros Gymru wedi derbyn anrhydedd gan Dywysog Cymru ym Mhalas Buckingham.

Mae Jess Fishlock, 31 oed ac sydd wedi ennill 101 o gapiau rhyngwladol, wedi derbyn MBE am ei chyfraniad i b锚l-droed.

Roedd Fishlock yn chwaraewr allweddol yn nh卯m Jayne Ludlow yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2019, pan fethodd Cymru yn ei g锚m olaf yn erbyn Lloegr.

Mae Fishlock bellach yn chwarae i glwb Lyon yn Ffrainc ac yn parhau i fod ar gael i Gymru er iddi ddweud yn yr haf ei bod hi'n ystyried ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol.