Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Cam yn nes' at adfer a diogelu T诺r y Marcwis
Mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n gyfrifol am safle un o atyniadau amlycaf Ynys M么n wedi sicrhau arian gan y Loteri Genedlaethol at brosiect i'w adnewyddu.
Bu'n rhaid cau T诺r y Marcwis - colofn restredig Gradd II ger Llanfairpwll - yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau mewnol yn beryglus.
Mae'r Anglesey Column Trust yn gobeithio adfer y gofeb rhyfel Napoleonaidd "yn gyfangwbl fel ei bod yn ddiogel i bobl ddringo i'w frig unwaith eto".
Bydd grant cychwynnol o 拢59,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi'r ymddiriedolaeth i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ymgeisio am grant loteri llawn o 拢640,000 yn y dyfodol.
Fel rhan o'r prosiect mae yna fwriad i adnewyddu bwthyn wrth droed y T诺r a fyddai'n cynnwys ystafell de, siop, gwybodaeth am dreftadaeth a phensaerniaeth y T诺r a gofod ar gyfer gweithgareddau addysgiadol ac ymweliadau gan ysgolion.
Mae bwriad hefyd i "adeiladu platfform gwylio hygyrch fel bod modd i bawb fwynhau'r golygfeydd anhygoel sydd i'w cael diolch i leoliad godidog y T诺r".
Bydd yr holl waith, medd yr elusen, yn sicrhau bod safle'r T诺r "yn gynaliadwy yn y tymor hir".
Ymateb arbennig
Dywedodd Marcwis M么n eu bod wedi cael cefnogaeth "arbennig" ers i'r ymddiriedolaeth lansio ymgyrch yn 2017 i adnewyddu ac ailagor y T诺r.
"Yr ymateb yr ydym yn ei gael ydi bod pobl eisiau gallu mwynhau safle'r T诺r unwaith eto a bod yr hanes a threftadaeth sy'n gysylltiedig ag o yn bwysig iawn i bobl," meddai.
"Mae'n wych gwybod ein bod nawr gam yn nes at ddiogelu'r safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Cafodd y t诺r ei godi yn 1817 gydag arian trwy danysgrifiad cyhoeddus, yn dilyn cyfraniad Marcwis cyntaf M么n ym Mrwydr Waterloo.
Yn y degawdau ers hynny fe ddaeth yn atyniad twristaeth poblogaidd, ac roedd pobl yn cerdded 115 gris i'r brig er mwyn gweld golygfeydd panoramig o'r ynys, Eryri a Phen Ll欧n.
Mae elusennau lleol hefyd wedi defnyddio'r t诺r ar gyfer gweithgareddau codi arian.