大象传媒

Galw am wella trafnidiaeth gyhoeddus ardaloedd gwledig

  • Cyhoeddwyd
Bws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder wedi codi yn ddiweddar am ddyfodol gwasanaethau bws gwledig yn Sir Gaerfyrddin

Dylai gwasanaethau tacsi gael eu defnyddio er mwyn darparu trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau sydd wedi colli gwasanaethau bws.

Dyma farn ymgyrchwyr Campaign for Better Transport (CBT) sy'n credu bod datblygiadau technolegol yn golygu bod modd defnyddio cerbydau preifat ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Mewn adroddiad, dywedodd y gr诺p fod defnyddio cerbydau o'r fath yn "agwedd hanfodol" o'u strategaeth i wella trafnidiaeth wledig mewn ardaloedd penodol.

Mae casgliadau'r adroddiad yn rhan o gynlluniau CBT ar gyfer rhwydwaith wedi'i gynllunio'n arbennig er mwyn addasu'r system bresennol.

Dywedodd yr adroddiad: "Nid oes teimlad o rwydwaith ar hyn o bryd - mae gwasanaethau'n cael eu rheoli gan wahanol weithredwyr, gydag ychydig iawn o gydweithrediad rhyngddynt."

Ychwanegodd bod dirywiad mawr wedi bod yn safon trafnidiaeth gyhoeddus wledig dros y blynyddoedd diwethaf wrth i'r pwysau ariannol ar awdurdodau lleol arwain at doriadau mewn gwasanaethau bws.

Fe ddisgynnodd y niferoedd sy'n defnyddio bysiau gwledig 44% yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2016-17 - 14% yn uwch na'r gostyngiad yn Lloegr.

'Argyfwng'

Yn 么l prif weithredwr CBT, Darren Shirley, mae cyllidebau awdurdodau lleol yn golygu bod angen iddyn nhw weithio'n agosach gydag ysgolion, ysbytai a chymunedau.

"Dim sybsideiddio bysiau yw'r ateb bob tro," meddai. "Efallai bod modd troi bws ysgol yn fws cyhoeddus ar 么l 9:00, neu ddefnyddio technoleg ar-lein i helpu pobl gael gafael ar dacsis ac ati.

"Mae trafnidiaeth gyhoeddus wledig mewn argyfwng. Mae toriadau mewn gwasanaethau bws a rhwydweithiau trafnidiaeth yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl gyrraedd yr ysgol, ymweld 芒 theulu a ffrindiau neu gael mynediad at siopau a gwasanaethau eraill."

Ychwanegodd fod "angen i bethau newid", gan annog y Llywodraeth i "gydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth wledig".

Dywedodd Martin Tett, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod cynghorau yn "fodlon trafod syniadau er mwyn sicrhau fod cymunedau'n derbyn y gwasanaethau angenrheidiol."

Ychwanegodd: "Mae awdurdodau lleol eisiau gwarchod gwasanaethau bysiau, ond wedi cael eu gorfodi i wneud toriadau oherwydd pwysau ariannol sylweddol."