Gwahardd rhedwyr mynydd rhag defnyddio GPS wrth rasio

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhedwyr mynydd wedi cael eu gwahardd rhag defnyddio GPS er mwyn dod o hyd i lwybrau mewn rasys cystadleuol yng Nghymru.

Cafodd y syniad ei gynnig yn ystod yr haf, a bydd y rheol yn weithredol yn holl rasys Cymdeithas Rhedwyr Mynydd Cymru (WFRA) o ddydd Mawrth ymlaen.

Dywedodd y sefydliad bod GPS yn "bygwth sylfaen ein camp".

Bydd rhedwyr yn dal yn gallu cofnodi eu llwybr ar oriawr GPS, ond nid oes hawl ganddyn nhw i ddilyn llwybr neu ddefnyddio teclyn sy'n dangos map.

'Ddim yn rhan o'r ethos'

Mae rhedwyr yn dal 芒'r hawl i ddefnyddio mesuryddion uchder neu bellter.

Dywedodd WFRA fod y newid yn ymateb i sylwadau gan eu haelodau.

"Nid yw defnydd dyfeisiau GPS ar gyfer dod o hyd i lwybrau yn cyd-fynd ag ethos ein camp," yn 么l ysgrifennydd y sefydliad, Andrew Blackmore.

"Mae rhedeg mynydd yn gamp syml - mae yna rai bryniau a rhai mannau arbennig sydd angen eu cyrraedd. Rhaid defnyddio eich sgil a'ch ffitrwydd i gyrraedd y pwyntiau hyn cyn gynted 芒 phosib."

Bydd trefnwyr y rasys yn parhau i amlygu cyfeiriadau a chyfarwyddiadau arbennig ar gyfer y rhedwyr fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Mae hawl i unigolion ddefnyddio GPS os oes argyfwng meddygol, ond mae'n rhaid iddyn nhw ddatgan nad ydynt yn rhedeg yn gystadleuol ar y llinell derfyn.

Bydd cosbau'r unigolion hynny sy'n torri'r rheol newydd yn cael eu dyfarnu gan drefnwyr y rasys unigol.

Ychwanegodd Mr Blackmore ei fod yn gobeithio na chaiff GPS ei ddefnyddio fel y prif ddull o gyfarwyddo wrth redeg mynydd.