´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Yr actores Mali Tudno Jones

  • Cyhoeddwyd
Mali Tudno JonesFfynhonnell y llun, Mali Tudno Jones

Yr actores Mali Tudno Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Elain Llwyd yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Ar y fferi gyda Mam a Dad yn mynd i Ffrainc a Dad yn dal fi dros yr ochr!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Unrhyw un o'dd yn neud i fi wherthin, a Barry John.

Disgrifiad o’r llun,

Ai Barry John y chwaraewr rygbi, neu'r dyn drwg ar Pobol y Cwm oedd Mali yn ei hoffi...?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gymaint o bethau! Taflu carreg at gar oedd yn pasio'r tŷ. O'dd e'n gwd shot ond ga'th neb dolur diolch byth… a ges i faddeuant ar ôl row uffernol.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n crïo bob dydd… pob llyfr, pob ffilm, pob darn o gerddoriaeth bron a bod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Lot. Road rage yn bennaf.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Borth-y-Gest ger Porthmadog… atgofion melys.

Ffynhonnell y llun, Mark Rudman
Disgrifiad o’r llun,

Y Cnicht a'r Moelwyn Mawr a Bach - yr olygfa o Borth-y-Gest

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhenblwydd yn Peru gyda fy ffrind gorau.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Optimistic. Drygionus. Cystadleuol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Master and Margarita gan Mikhail Bulgakov. Un o oreuon llenyddiaeth Rwsia… doniol, clyfar, llawn dychymyg. Jest darllenwch e.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Maggie Smith; hiwmor sych, llawn talent a rhywun sydd ddim yn diodde' unrhyw nonsens.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maggie Smith wedi actio ar lwyfan, y sgrin fach a'r sgrin fawr ers bron i 70 mlynedd, a dal ddim yn diodde' unrhyw nonses

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi 'di ennill cystadleuaeth ralïo.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gyda fy nheulu a ffrindiau ar y traeth yn cael parti mawr ger y môr.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff gân a pham?

O thou that tellest good tidings to Zion gan Handel. O'n i'n arfer gwrando i Mam yn canu Rejoice o'r Messiah a fe wnes i syrthio mewn cariad â'r holl beth ac yna darganfod y darn alto… Roedd Handel yn arthlylith. I feddwl nath e ddechrau gyda darn o manuscript ²µ±ôâ²Ô!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Unrhyw beth o Milgi yng Nghaerdydd. Dwi erioed 'di blasu unrhyw beth gwael yna, yn enwedig y kimchi. Mmmm.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Maggie Smith pan o'dd hi'n gweithio ar ffilmiau Agatha Christie gyda Peter Ustinov.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Hanna Jarman