'Angen amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth fyw Caerdydd'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn galw am sefydlu pwyllgor er mwyn amddiffyn cerddoriaeth yng Nghaerdydd yn sgil cau rhai o leoliadau fwyaf blaenllaw s卯n gerddorol y ddinas.
Mae bar Buffalo eisoes wedi cau oherwydd cynnydd mewn cyfraddau busnes, tra bod disgwyl i Far Gwdih诺 gau cyn diwedd y mis wedi i'w landlordiaid benderfynu peidio adnewyddu eu les yn y lleoliad.
Dywedodd yr ymgyrchwr Daniel Minty y byddai pwyllgor sy'n cynnwys cynghorwyr, ASau a dilynwyr cerddoriaeth yn gallu helpu lleoliadau sy'n wynebu anawsterau.
Yn 么l Cyngor Caerdydd mae'r gwaith o lunio strategaeth gerddoriaeth bron wedi ei gwblhau.
Ychwanegodd Mr Minty: "Os mae lleoliadau gigs yn parhau i ddiflannu o ganol y ddinas, yna mae'n gosod cynsail sy'n awgrymu nad ydyn nhw'n bwysig."
Ym mis Rhagfyr, cafodd rheolwyr Gwdih诺 wybod gan eu landlordiaid fod rhaid iddyn nhw adael y safle erbyn diwedd mis Ionawr, gan eu bod yn bwriadu dymchwel yr adeilad, yn ogystal 芒 rhai cyfagos, er mwyn adeiladu datblygiad newydd yn eu lle.
Fe drefnodd Mr Minty ddeiseb yn erbyn y datblygiad, ac mae bellach wedi denu 20,000 o lofnodion. Mae'n gobeithio y bydd y Cyngor yn rhwystro'r datblygiad drwy nodi'r safle fel ardal o ddiddordeb pensaern茂ol arbennig.
Mae'n credu y byddai sefydlu pwyllgor yn "galluogi perchnogion y lleoliadau hyn i fynegi eu pryderon yn bell cyn iddyn nhw droi yn fygythiadau".
Roedd Mr Minty hefyd yn croesawu buddsoddiad yr awdurdod lleol o 拢75,000 er mwyn datblygu strategaeth gerddoriaeth, gan nodi ei fod yn dangos ymrwymiad i s卯n gerddorol y ddinas.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r gwaith yma bron wedi ei gwblhau a bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi unwaith y mae cabinet y cyngor wedi ei gymeradwyo."
Cysylltu 芒 Cadw
Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gallu cadarnhau bod swyddogion Cadw wedi cael eu galw i "ystyried rhinweddau'r adeiladau [ar Guildford Crescent] er mwyn eu rhestru" a'u bod yn ymwybodol bod angen gwneud ar frys.
Dywedodd Mr Drakeford bod ymgynghoriad Cyngor Caerdydd am ddynodiad posib Guildford Crescent fel ardal cadwraeth wedi dod i ben.
"Os ydy'r cyngor yn penderfynu parhau gyda'r dynodiad hwnnw, yna fe fydd yn dod i rym o ddyddiad y penderfyniad, ac os bydd hynny'n digwydd, yna bydd cynnig i ddymchwel yr adeilad yn gorfod cael cais am ganiat芒d ardal gadwraeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd19 Mai 2017