Rhedeg mynydd heb gymorth GPS
- Cyhoeddwyd
Mae rasys rhedeg mynyddoedd yn dod yn fwyfwy poblogaidd gyda'r gamp yn amrywio o ran safon, pellter ac amodau rhedeg.
Ond fel y clywodd gwrandawyr Rhaglen Aled Hughes ar fore Mawrth, mae awdurdodau'r gamp yng Nghymru wedi dweud na fydd cystadleuwyr bellach yn cael defnyddio GPS (Global Positioning System) er mwyn ffeindio eu ffordd yn ystod ras.
Mae Huw Brassington o Gaernarfon yn rhedeg rasys eithafol a phellter hir ar hyd mynyddoedd Cymru. Fe redodd Huw, sy'n cyfeirio at ei hun fel 'taten flewog o Gaernarfon', ras Cefn y Ddraig y llynedd - sy'n dechrau ar fynyddoedd Eryri ac yn mynd lawr at y Mynydd Du yn Sir G芒r. Roedd rhaglen ar S4C yn dilyn helyntion Huw yn rhedeg y ras. Yn ystod y ras yna roedd Huw yn defnyddio mapiau a'i allu ei hun ar y daith.
Siaradodd gydag Aled am y rheol newydd ar Radio Cymru.
"Mae cyfeiriannu yn rhan bwysig iawn o redeg mynydd yn gyffredinol. Mae'r ddeddf newydd wedi ei chreu gan y WFRA (Welsh Fell Runners Association) ac yn gwahardd y defnydd o GPS mewn rasys mynydd."
"Ar yr olwg gyntaf dydy'r newid yma ddim yn edrych fel lot o ddim byd, ond o dan y wyneb mae 'na deimlad cryf yn erbyn gorfasnachu rhedeg mynydd. Dydyn nhw ddim yn licio pres yn dod fewn iddo.
"Nes i gofrestru pedair wythnos yn 么l i ras fynydd fyny'r l么n imi yma yn Cumbria, a 拢2 oedd y gost. Roedd hyn i redeg mynydd am oriau, a dyna'r math o rasys ma nhw'n hoffi, rhai syml a thraddodiadol gan ddweud mai'r cyfan da chi angen ydi p芒r o esgidiau, legins ac ma'r barf yn opsiynol. Wedyn mae o fyny i chdi be' ti'n 'neud ar y mynydd 'na."
Felly sut mae defnyddio GPS wedi newid y gamp? Ydy o'n mynd yn groes i ysbryd yr holl beth?
"Be' mae'n gwneud ydy newid y gamp, mae o bron yn chwalu o i gyd. Mae 'na rasys fel skyline ultras a trail races lle mae 'na drywydd wedi'w gosod a markers ar y cwrs. Felly mae 'na domen o rasys allan yna i bobl sydd ella ddim eisiau dysgu sut i ddarllen map, ac mae hynny ddigon teg achos dydy o ddim i bawb - ac mae'r rasys yna jest yn canolbwyntio ar y rhedeg.
"Ond be' ydy rhedeg mynydd (fell running) ydy'r cyfuniad yna o ddefnyddio dy gorff i symud yn sydyn dros y mynyddoedd ond gan ddarllen map, ac mae hynna'n elfen hanfodol ohono fo. Mae GPS yn chwalu'r darn yna, ac felly'n chwalu'r gamp.
"Mae rhai o'r trefnwyr yn licio GPS, achos be' mae'n feddwl ydy mwy o bobl yn arwyddo fyny a mwy o bres yn dod fewn. A mae o'n dda yn yr ystyr bod o'n agor y mynyddoedd allan i bobl ella fysa ddim efo'r hyder fel arall."
Mae arian yn gallu rhedeg pethau pwysig o fewn chwaraeon yn aml, ond yn yr achos yma mae'r gamp yn aros yn driw i'r gwreiddiau, sy'n gam calonogol yn 么l Huw: "Dydy o ddim yn digwydd yn aml - dwi'n methu meddwl am lawer o chwaraeon sydd fel 'na, maen nhw i gyd eisiau mwy o arian dydyn."
Elfen arall sy'n amlygu ei hun wrth drafod GPS yw diogelwch.
"Dwi'n si诺r os fyswch chi'n gofyn i d卯m achub mynydd, dwi'n si诺r fysa nhw'n cal parti bach efo'r newyddion 'ma (gwahardd GPS), achos mae'n golygu bydd pobl yn mynd allan a dysgu sut i ddarllen map, ac mae hynny'n beth wirioneddol hanfodol os ti am fod allan ar y mynydd," meddai Huw.
"Mae'r rheol newydd yn dweud y cei di fynd 芒 GPS efo ti, rhoi o yn dy boced, ond bod ti ddim yn defnyddio fo. Bydd o'n anodd cadw check ar bwy sydd 'di defnyddio fo, ond fydd rhaid i'r rhedwyr fod yn onest am y peth.
"Ar ddiwedd y dydd dwi'n meddwl fod hyn yn beth gwych - a Chymru eto'n arwain y ffordd! Mae Lloegr yn meddwl dod 芒 fo fewn, ond 'da ni jest di 'neud o, gwych."
Yn Galeri, Caernarfon ar 2 Mawrth bydd Huw yn cynnal sgwrs yn trafod rhedeg mynydd. Bydd pedwar o arbenigwyr ar y pwnc yn siarad, gan gynnwys Billy Bland- sef efallai'r rhedwr mynydd gorau erioed - sydd bellach yn 70 oed. Hefyd yno bydd y rhedwyr Lowri Morgan, Carol Morgan a Steve Birkinshaw.