大象传媒

Tyrbinau gwynt yn y canolbarth 'heb droi ers blwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
Fferm wynt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae chwech o dyrbinau yn rhan o fferm wynt Bryn Blaen ger Llangurig

Mae pobl sy'n byw ger fferm wynt yn y canolbarth yn honni nad yw'r tyrbinau wedi cynhyrchu unrhyw drydan ers iddyn nhw gael eu codi flwyddyn yn 么l.

Mae gan fferm wynt Bryn Blaen ger Llangurig yn Sir Drefaldwyn chwech o dyrbinau, pob un tua 100m o uchder, ac mae gan y datblygiad botensial i gynhyrchu trydan ar gyfer 8,400 o dai.

Ond mae pobl leol yn dweud nad ydyn nhw wedi gweld y tyrbinau'n troi ers mis Chwefror 2018, pan gafodd dau ohonyn nhw eu ffilmio yn troi gan un o'r trigolion lleol.

Mae'r datblygwr - cwmni Njord Energy - yn adeiladu fferm wynt ddadleuol arall ger Llandrindod ar hyn o bryd.

Caniat谩u ar ap锚l

Cafodd caniat芒d cynllunio ar gyfer fferm wynt Bryn Blaen ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Powys yn 2015, wedi pryderon am effaith y datblygiad ar olygfeydd a'r dirwedd.

Roedd adroddiad Cyngor Powys hefyd yn dweud bod safle'r datblygiad yn groes i bolisi TAN 8 Llywodraeth Cymru, gan ei fod tu allan i'r ardaloedd sydd wedi'u clustnodi ar gyfer prosiectau ynni adnewyddol.

Ond mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr ardaloedd sydd wedi'u clustnodi gan TAN 8 yn berthnasol ar gyfer ffermydd gwynt mawr yn unig.

Fe wnaeth Njord Energy apelio yn erbyn y penderfyniad, a chafodd y fferm wynt ei chaniat谩u gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn 2016.

Mae pobl leol yn dweud bod y chwech o dyrbinau wedi cael eu codi erbyn dechrau 2018.

Cafodd dau ohonyn nhw eu ffilmio yn troi ym mis Chwefror y llynedd, ond mae pobl sy'n byw yn Llangurig a Llanidloes yn dweud nad ydyn nhw wedi gweld y fferm wynt yn gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth John Dor茅 o Langurig herio'r penderfyniad i gymeradwyo'r fferm wynt

Fe wariodd John Dor茅, sy'n byw yn Llangurig, dros 拢30,000 o'i arian ei hun ar ymdrech aflwyddiannus i atal y fferm wynt rhag cael ei hadeiladu.

Dwedodd Mr Dor茅: "Roeddwn i'n meddwl mai dyna oedd y peth iawn i wneud ac fe es i 芒'r mater mor bell ag yr oeddwn yn gallu. Bob cam i'r uchel lys yn Llundain.

"Ond doeddwn i ddim yn llwyddiannus a nawr mae gennym ni'r tyrbinau mawr yn sefyll yma yn gwneud dim byd."

Fe gysylltodd 大象传媒 Cymru 芒 Njord Energy er mwyn gofyn faint o drydan mae fferm wynt Bryn Blaen wedi'i gynhyrchu, ond ni chafwyd ymateb.

Mae Njord Energy hefyd yn adeiladu fferm wynt arall yn Hendy ger Llandrindod, ond mae gwrthwynebiad gan bobl leol yno hefyd.

Maen nhw'n dweud bod y gwaith adeiladu yn digwydd heb fod amodau'r cais cynllunio wedi'u bodloni.

'Mwy o fanteision nag anfanteision'

Cafodd y cais ar gyfer Hendy ei wrthod gan Gyngor Powys hefyd ac fe gafodd y penderfyniad hwnnw ei gefnogi gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Ond fe wnaeth Lesley Griffiths, Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, ganiat谩u'r datblygiad ym mis Hydref y llynedd gan ddweud bod y manteision yn fwy nac unrhyw effeithiau negyddol posib.

Dyw Njord Energy ddim wedi gwneud unrhyw sylw diweddar yngl欧n 芒 fferm wynt Bryn Blaen, ond mewn datganiad blaenorol yngl欧n 芒 Hendy dywedodd y cwmni eu bod yn "ddatblygwr cydwybodol" sydd wedi ymrwymo i gynnal "perthynas dda a dialog gyda chynrychiolwyr cymunedau".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr ardaloedd sydd wedi'u clustnodi gan TAN 8 yn berthnasol ar gyfer ffermydd gwynt mawr yn unig.