Cyhuddo Theresa May o beidio brwydro dros Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Theresa May wedi cael ei chyhuddo o ganolbwyntio ar Brexit yn hytrach na cheisio ymladd i sicrhau fod gorsaf niwclear newydd yn cael ei chodi ar Ynys M么n.
Ddydd Gwener daeth adroddiadau fod bwrdd rheoli Hitachi yn debygol o benderfynu atal y gwaith sy'n mynd rhagddo ar safle Wylfa Newydd yr wythnos nesaf.
Fe wnaeth gwleidyddion ac undebau feirniadu Mrs May am beidio 芒 thrafod y mater gyda phrif weinidog Japan pan gyfarfu'r ddau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod trafodaethau gyda Hitachi yn parhau.
Mae yna ddyfalu cynyddol wedi bod y byddai'r cwmni o Japan yn cefnu ar brosiect Horizon - cynllun gwerth 拢20bn.
Yn 么l adroddiadau, mae'r cwmni'n poeni oherwydd y posibilrwydd y bydd costau adeiladu yn cynyddu.
Dywedodd AS Llafur Ynys M么n, Albert Owen ei fod am wybod gan weinidogion "beth sy'n mynd o'i le yma, a pham fod y cwestiynau a'r pryderon yma yn cael eu clywed am ddyfodol y safle."
Ychwanegodd: "Mae'r llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio gormod ar Brexit."
Dywedodd undeb Unite eu bod wedi eu syfrdanu na chafodd y sefyllfa ei thrafod gan Theresa May a phrif weinidog Japan Shinzo Abe, pan fu'r ddau yn cyfarfod ddydd Iau.
"Roedd hyn yn esgeulustod gan Theresa May o ran ei chyfrifoldebau," meddai Peter McIntosh, swyddog ynni undeb Unite.
Dywedodd fod angen i Lywodraeth y DU weithredu er mwyn sicrhau fod y prosiect yn symud ymlaen, gan ychwanegu pe na bai'r atomfa yn cael ei hadeiladu y byddai'n cael "effaith dychrynllyd ar economi Cymru ac ar allu'r DU i gwrdd 芒'i gofynion yn wyneb newid hinsawdd".
Yn 么l Justin Bowden, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB, roedd angen i Lywodraeth y DU gynnig arian ar gyfer y prosiect er "mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ynni'r DU".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod yr adroddiad yn Nikkei Asian Review yn achos pryder.
Ddydd Gwener, dywedodd Hitachi bod atal y gwaith yn opsiwn.
"Nid oes unrhyw benderfyniad ffurfiol wedi ei wneud ar hyn o bryd, er bod Hitachi wedi asesu Prosiect Horizon yn cynnwys y posibilrwydd o'i atal a'r effeithiau ariannol cysylltiedig," meddai llefarydd.
Y bwriad oedd gallu cynhyrchu trydan erbyn canol y 2020au, a bod yn weithredol am 60 o flynyddoedd.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU: "Mae trafodaethau'n parhau gyda Hitachi ar ddod i gytundeb sy'n darparu gwerth am arian i gwsmeriaid a threthdalwyr o brosiect Wylfa.
"Maen nhw'n rhai sy'n fasnachol sensitif a dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar s茂on."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018