大象传媒

'Achosion trais yn y cartref yn hir cyn cyrraedd y llys'

  • Cyhoeddwyd
Chief Constable Matt Jukes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Prif Gwnstabl Matt Jukes bod Heddlu De Cymru yn cymryd achosion trais yn y cartref o ddifrif

Dywed Prif Gwnstabl Heddlu'r De ei fod yn poeni am y cyfnod o amser y mae hi'n ei gymryd i achosion o drais yn y cartref gyrraedd y llys.

Yn 么l Matt Jukes, mae gostyngiad yn niferoedd yr heddlu a delio gyda thystiolaeth ddigidol wedi arafu'r broses.

Derbyniodd Heddlu'r De 33,614 adroddiad o drais yn y cartref y llynedd.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael 芒'r broblem a chreu mwy o ymwybyddiaeth.

Dywedodd Mr Jukes: "Un o'r pethau rwy'n flin amdano yw'r amser y mae hi wedi ei gymryd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i achos gyrraedd y llys.

"Mae llai o adnoddau ac effaith tystiolaeth ddigidol yn golygu ei bod hi bellach yn cymryd mwy o amser. Mae'r cyfnod hwnnw o amser yn anodd i'r dioddefwr."

Doedd Heddlu'r De ddim yn gallu darparu ffigyrau am amser achos i gyrraedd y llys ond fe ddywedodd llefarydd bod "modd datrys rhai achosion yn gyflym" tra bod eraill yn cymryd "mwy o amser".

Cafodd ymddygiad gormesol ei wneud yn anghyfreithlon yn 2015 ac mae ffigyrau yn dangos mai dim ond 4% o gwynion y mae'r heddlu'n eu derbyn sy'n cyrraedd y llys.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Natasha Hirst yn dweud iddi hi lwyddo i ddechrau o'r newydd ar ei bywyd a'i gyrfa wedi 10 mis mewn lloches

Dywed Natasha Hirst, a oedd yn honni ei bod mewn perthynas o gam-drin am ddwy flynedd, bod angen i bobl fod yn fwy ymwybodol o'r arwyddion.

"Dyw e ddim," meddai, "fel eich bod yn cael eich taro yn eich wyneb ar eich noson gyntaf allan - mae ymddygiad gormesol yn digwydd heb i chi sylweddoli ac yna ry'ch chi wedi'ch caethiwo."

Dywedodd Gwendolyn Sterk o Gymorth i Fenywod Cymru bod yn rhaid i weithredwyr fod yn atebol am eu hymddygiad treisgar.