Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd gyda Brexit?
- Cyhoeddwyd
Ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, prin mae'r trafodaethau a'r dadlau ynghylch Brexit wedi bod allan o'r penawdau.
Nos Fawrth fe fydd pleidlais yn Nh欧'r Cyffredin ar gytundeb Mrs May gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Gallai hynny olygu cam enfawr tuag at adael yr UE ar 29 Mawrth, neu'n ddechrau ar wythnosau o ansicrwydd pellach.
Ydy'r holl beth yn eich drysu? Dyma atebion i rai o'r prif gwestiynau.
Beth sydd wedi digwydd?
Pleidleisiodd 51.9% o blaid gadael yr UE yn 2016, cyn i Theresa May ddod yn brif weinidog a dechrau proses Brexit a thanio Erthygl 50.
Ers hynny mae'r trafodaethau rhwng y DU a gwledydd eraill yr UE wedi bod yn digwydd.
Mae'r trafodaethau wedi bod yn canolbwyntio ar y cytundeb ymadael - sy'n gosod yn glir sut mae'r DU yn gadael - ac nid yr hyn fydd yn digwydd wedyn.
Beth gafodd ei gytuno?
Mae'r cytundeb ymadael yn cynnwys:
Faint sy'n rhaid i'r DU ei dalu i'r UE i adael - tua 拢39bn;
Beth fydd yn digwydd i ddinasyddion y DU sy'n byw ar y cyfandir, a hefyd dinasyddion yr UE sy'n byw ym Mhrydain;
Sut i osgoi ffin gorfforol yn Iwerddon pan mae'n dod yn ffin rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
Yn ogystal, cafodd datganiad gwleidyddol ei gytuno sy'n rhoi amcan o berthynas y DU a'r UE wedi Brexit.
Mae cyfnod trosglwyddo wedi ei gytuno er mwyn i'r DU a'r UE ddod i gytundeb masnach a rhoi amser i fusnesau ymdopi 芒'r newid.
Os ydy cytundeb Mrs May yn cael ei gefnogi, mae'n golygu y byddai cyfnod o newidiadau mawr rhwng 29 Mawrth a 31 Rhagfyr 2020.
Fydd y cytundeb yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol?
Ar hyn o bryd mae'n edrych yn annhebygol. Mae aelodau o bob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr, wedi dweud na fyddan nhw'n ei gefnogi.
Roedd y bleidlais i fod i ddigwydd ar 11 Rhagfyr, ond cafodd ei ohirio ar 么l i Mrs May gyfaddef na fyddai'n pasio drwy D欧'r Cyffredin.
Fe wnaeth y penderfyniad ddenu beirniadaeth o fewn ei phlaid, ac roedd rhaid iddi wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan y Ceidwadwyr.
Beth yw'r gwrthwynebiad?
Mae 'na nifer o resymau pam bod ASau'n gwrthwynebu'r cynllun, gyda llawer yn honni nad yw'r cytundeb yn rhoi rheolaeth lawn i'r DU oddi wrth yr UE.
Mae'r ffin yn Iwerddon wedi bod yn broblem fawr, gyda'r DU a'r UE eisiau atal ffin gorfforol, ond y DU eisiau tynnu'n 么l o reolau Ewropeaidd ar bethau fel bwyd a nwyddau.
Cafodd math o bolisi yswiriant ei gynnwys yn y cytundeb - y backstop - sy'n gynllun i'w ddefnyddio os nad yw'r DU a'r UE yn gallu dod i gytundeb parhaol ar y mater.
Dywedodd Mrs May y byddai ond yn dod i rym fel y dewis olaf, ond mae rhai yn anhapus gan y byddai'r DU angen caniat芒d yr UE i ddod 芒'r polisi yswiriant hwnnw i ben.
Beth sy'n digwydd os yw ASau'n gwrthod y cytundeb?
Dydy hynny ddim yn glir - ond bydd gan y llywodraeth dri diwrnod i gynnig opsiynau eraill i D欧'r Cyffredin.
Os nad oes cynllun arall yn cael ei gytuno, bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 29 Mawrth.
Ond mae Mrs May wedi rhybuddio bod peidio gadael yr UE yn fwy o bosibilrwydd os ydy ASau'n gwrthod ei chytundeb hi.
Mae 大象传媒 News wedi bod yn edrych yn fanwl ar yr opsiynau posib yma (yn Saesneg).
Beth fyddai'n digwydd os yw'r DU yn gadael heb gytundeb?
Byddai Brexit heb gytundeb yn golygu nad ydy Llywodraeth y DU wedi llwyddo i ddod i gytundeb ymadael gyda'r UE.
Ni fyddai cyfnod trosglwyddo ar 么l 29 Mawrth, a byddai cyfreithiau'r UE yn cael eu disodli dros nos.
Mae'r llywodraeth wedi dechrau paratoi ar gyfer y sefyllfa yma, gan gyhoeddi cyfres o ganllawiau ar bopeth o basbortau i gyflenwadau trydan.
Dilynwch y bleidlais yn San Steffan ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 19:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2019