大象传媒

Gatland yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Halfpenny ei anafu mewn g锚m yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd

Mae Leigh Halfpenny a Ross Moriarty wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, er eu bod nhw'n dioddef o anafiadau.

Mae disgwyl i Halfpenny golli dechrau'r bencampwriaeth wrth iddo barhau i wella o effaith cyfergyd, tra bod Ross Moriarty hefyd yn dioddef o effaith cyfergyd ers 15 Rhagfyr.

Y clo Alun Wyn Jones fydd yn gapten ar y garfan unwaith eto, wrth i Warren Gatland baratoi i arwain Cymru yn y gystadleuaeth am y tro olaf.

Jones, sydd wedi chwarae 120 o weithiau dros Gymru, yw'r unig aelod o garfan Cymru yn 2008 - carfan gyntaf Gatland fel prif hyfforddwr Cymru - sydd wedi ei gynnwys.

Mae Thomas Young, Josh Turnbull, Josh Navidi a Scott Williams i gyd yn dychwelyd i'r garfan ar 么l methu Cyfres yr Hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Taulupe Faletau yn colli'r gystadleuaeth wedi i wythwr Caerfaddon dorri ei fraich unwaith eto

Bydd Taulupe Faletau yn colli'r gystadleuaeth wedi i wythwr Caerfaddon dorri ei fraich unwaith eto, yn ogystal 芒 James Davies, Ellis Jenkins ac Aaron Shingler sydd hefyd yn absennol oherwydd anafiadau.

Moriarty, Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Navidi, Turnbull a Young yw'r chwaraewyr rheng-么l sydd wedi eu cynnwys.

Dywedodd Gatland, fydd yn gadael ei swydd yn dilyn Cwpan Rygbi'r Byd yn Siapan: "Mae'r garfan yn ofnadwy o brofiadol, ac yn cynnwys chwaraewyr sydd wedi chwarae mewn sawl ymgyrch gyda'i gilydd.

"Rydyn ni'n teimlo fel ein bod ni mewn lle da iawn wrth i ni baratoi ar gyfer y flwyddyn enfawr yma."

Ychwanegodd: "Mae rhai anafiadau gyda ni, ond rydyn ni wedi dewis carfan fawr mewn ymateb i hynny."

Bydd ymgyrch carfan profiadol Cymru yn dechrau yn erbyn Ffrainc ym Mharis ar nos Wener, 1 Chwefror.

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y garfan yn llawn