Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Craffu ar Brexit: Elin James Jones
Wrth ymlwybro ben bore drwy st芒d gothig San Steffan ar drothwy wythnos hanesyddol arall, mae rhywun yn dechrau myfyrio ar y troeon trwstan a fu.
Un o'r ystafelloedd cynta' y byddaf yn taro heibio iddi'n ddyddiol yw neuadd hynaf y Palas hwn - neuadd sy'n dyddio n么l i ddechrau'r unfed ganrif ar ddeg.
Dyma neuadd sydd wedi goresgyn sawl t芒n, chwyldro a Rhyfel Byd.
Dan droed, ceir cofnodion o ddigwyddiadau ac areithiau enwog - Syr William Wallace (Braveheart) yn cael ei ddedfrydu i farwolaeth ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, cyfaddefiad Guto Ffowc, areithiau'r Arlywyddion rhyngwladol Nelson Mandela a Barrack Obama.
A nawr dyma fi, ben bore, yn camu drostyn nhw, paned o goffi (cryf) yn fy llaw, ar y ffordd i'r swyddfa i geisio dechrau dygymod 芒 Brexit, a r么l y Senedd wrth i'r Deyrnas Unedig geisio gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Nid chwyldroadwr nac arweinydd gwlad mohona i. Ond biwrocrat, yn y bon.
Rheolwr Craffu Brexit T欧'r Cyffredin yw'r teitl swyddogol. Swydd sy'n pontio'r pleidiau ac yn cynnig cyngor di-duedd i Aelodau Seneddol ar sut i graffu ar bolisi'r Llywodraeth wrth ymadael.
Wrth i aelodau wynebu wythnos dyngedfennol arall yn y broses o gymeradwyo'r cytundeb rhwng y ddau undeb, ry'n ni'r staff wrthi'n cynghori, drafftio, cyfri a chyfathrebu.
Rwy'n aelod o'r t卯m sy'n cydlynu papurau briffio Brexit, sef y papurau sy'n dadansoddi materion pwysig fel cynnwys y dd锚l ei hun, fframwaith y berthynas gydag Ewrop yn y dyfodol, r么l y Senedd Brydeinig ac Ewropeaidd yn y broses o gymeradwyo, a sgil-effaith gadael yr Undeb heb dd锚l.
Ymysg y dadansoddi, rwy' hefyd wrthi'n cydlynu'r gwaith gyda'n swyddfa ym Mrwsel i sicrhau perthynas ddiplomyddol gref rhwng staff, sy'n ein galluogi i gael darlun cyflawn o safbwyntiau'r 27 gwlad arall sy'n aelodau o'r Undeb - testun papur briffio arall sydd o fudd i ASau wrth baratoi cyfraniadau yn y Siambr.
Ein nod yn y bon yw cynnig ffynonellau ffeithiol a di-duedd i'r cyhoedd ymysg y cecru gwleidyddol.
Tu hwnt i'r drafftio, un o fy mhrif gyfrifoldebau yw cynnal trosolwg o waith ein Pwyllgorau Dethol, sef pwyllgorau trawsbleidiol o ASau sy'n craffu ar waith y Llywodraeth, adran wrth adran.
Dwi'n gyfrifol am sicrhau bod ein strategaeth graffu ar Brexit yn ystyried yr holl sgil-effeithiau ar amryw o ddiwydiannau, craffu ar waith gweision sifil, a chynghori ar welliannau i'r polis茂au.
Penllanw'r gwaith yw cymryd tystiolaeth gan y Prif Weinidog ryw dair i bedair gwaith y flwyddyn, gan eistedd yn dawel tu cefn i Gadeiryddion Pwyllgorau Dethol y Senedd - aelodau amlwg megis Hilary Benn, Tom Tugendhat, Yvette Cooper, wrth iddyn nhw groesholi Theresa May ar ei llywodraethiant.
Ac yna daw'r cyfri a'r cyfathrebu.
Mae'r holl fusnes Seneddol dyddiol yn cael ei restru ar y Papur Trefn. Hon yw un o ddogfennau pwysica'r Senedd, yn enwedig heddiw (dydd Mawrth pleidlais Brexit).
Yma ceir holl gynigion yr ASau am welliannau, unrhyw ddeddfwriaeth newydd, ac yn hanfodol - yr amserlen.
Dyma sy'n rhoi fframwaith i'm diwrnod gwaith wrth i mi gydlynu ein hymchwilwyr, y t卯m diplomyddol ym Mrwsel a'r pwyllgorau dethol.
Dyma sy'n rhoi blas i ni pryd i ddisgwyl y ffrwydradau gwleidyddol, y pleidleisiau pwysig, a sut i annog cyd-weithio effeithiol rhwng timau ar draws y Senedd i sicrhau fod Aelodau Seneddol yn y sefyllfa orau bosib i gwblhau eu dyletswydd ddemocrataidd ar ddiwrnod pwysig arall ar st芒d San Steffan.
'Sgwn i sut gofnod o hwn fydd yn yr hen neuadd honno, ymhen canrifoedd?