大象传媒

Gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar i gyn aelodau Y Cyrff

  • Cyhoeddwyd
Y Cyrff
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mark Roberts a Paul Jones yn aelodau o'r band pync Y Cyrff

Cyn aelodau o Y Cyrff a Catatonia, Mark Roberts a Paul Jones, yw enillwyr gwobr Cyfraniad Arbennig cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar eleni.

Maent yn ennill y wobr 30 mlynedd wedi iddynt ryddhau'r record Yr Atgyfodi, oedd yn cynnwys y g芒n adnabyddus 'Cymru, Lloegr a Llanrwst'.

Yn 么l golygydd Y Selar, mae'n adeg "amserol" i'w gwobrwyo'r am eu cyfraniad i gerddoriaeth Cymraeg a Chymreig.

Bydd y ddau'n derbyn eu gwobr yn ystod noson gyntaf y gwobrau ar 15 Chwefror.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Mark Roberts a Paul Davies at ei gilydd eto i ffurfio Catatonia yn yr 1990au

Roedd Mark Roberts a Paul Jones yn aelodau o'r band pync Y Cyrff, cyn symud ymlaen i ffurfio Catatonia gyda Cerys Matthews, Owen Powell ac Aled Richards yn 1992.

Er i Catatonia chwalu yn 2001, mae'r ddau wedi parhau i weithio ar brosiectau cerddorol, gan gynnwys Sherbet Antlers ac Y Ffyrc.

Llynedd, rhyddhaodd Mark Roberts ei albwm unigol cyntaf, Oesoedd, dan yr enw MR.

'Teimlo'n briodol'

Dywedodd Owain Schiavone, uwch olygydd Y Selar a threfnydd y gwobrau, bod y wobr yn "teimlo'n briodol eleni" o ystyried prosiect newydd Mark Roberts a'r ffaith fod hi'n 30 mlynedd ers rhyddhau Yr Atgyfodi.

"Rhaid cyfaddef eu bod nhw wedi bod ar ein meddwl fel enillwyr posib ers i ni sefydlu'r wobr rai blynyddoedd yn 么l - does dim amheuaeth fod eu cyfraniad a dylanwad ar gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig wedi bod yn enfawr," meddai.

Bydd y wobr yn cael ei gyflwyno i'r ddau yn ystod noson gyntaf penwythnos Gwobrau'r Selar.

Bydd Mellt, Y Cledrau, HMS Morris, Los Blancos a Breichiau Hir ymhlith y bandiau sy'n perfformio yn ystod y penwythnos, fydd ar 15-16 Chwefror eleni.