´óÏó´«Ã½

Gwenan Mair Edwards: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd
Cyri tatws melys a choconyt, gyda reis brown a popadom

Mae Gwenan Mair Edwards o Carmel yn rhoi cynnig ar Veganuary ar gyfer mis Ionawr, sef torri unrhyw gynnyrch anifail o'i deiet. Dyma her a hanner gan ei bod hefyd yn methu bwyta gwenith na chynnyrch llefrith.

Beth mae Gwenan yn ei goginio fel fegan dros dro a sut mae'i chariad, sy'n bwyta cig, yn ymdopi?

Disgrifiad o’r llun,

Gwenan Mair Edwards

Beth sy' i de heno?

Cyri tatws melys a choconyt, gyda reis brown a popadom (a brest cyw iâr tandoori ar yr ochr i Gafyn). Dwi ddim yn dilyn rysáit penodol - rhyw gyfuniad o ryseitiau dwi wedi eu gwneud o'r blaen gan Deliciously Ella a Fearne Cotton.

Dwi ddim yr ora' am ddilyn rysáit, er mod i efo bob dim arall yn un sy'n hoffi dilyn cyfarwyddiadau a gwneud rhestrau! Pan mae'n dod i goginio dwi'n dueddol o daflu pethau at ei gilydd a gobeithio am y gorau.

Disgrifiad o’r llun,

Cyri tatws melys a choconyt, gyda reis brown a popadom

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Fi, Gafyn fy mhartner (a Ffisig y gath yn swnian!)

Sut wyt ti wedi addasu dy ddeiet ar gyfer Veganuary?

Dwi ddim yn bwyta cynnyrch llefrith p'run bynnag oherwydd alergedd, felly ar gyfer Veganuary, torri cig, pysgod ac wyau yw'r sialens!

Dwi wedi bod yn addasu drwy ddefnyddio quorn, tofu, lentils ac ati - mae chilli wedi ei wneud efo lentils yn lle mins yn flasus iawn. Y sialens pennaf yw coginio pethau sydd yn addas i fi a Gafyn - fyddai o byth yn medru mynd heb gig!

Disgrifiad o’r llun,

Gafyn gyda'r cyri a brest cyw iâr

Beth wyt ti'n eu colli fwyaf?

Wyau a chig moch.

Ydy'r newid deiet wedi gwneud lles i ti?

I fod yn hollol onest dwi ddim yn siŵr hyd yma - dwi ddim yn meddwl bod digon o amser wedi mynd heibio… felly cawn weld go iawn erbyn diwedd y mis!

Dwi'n teimlo fy mod i'n bwyta gormod o gig fel rheol - ac er nad oes gen i fwriad torri cig yn gyfan gwbl yn dilyn hyn, roeddwn yn gweld Veganuary fel cyfle i arbrofi a chael syniadau ar gyfer cael deiet mwy amrywiol wrth symud ymlaen.

Oes 'na unrhyw beth wyt ti'n methu eu bwyta a pham?

Alla'i ddim bwyta cynnyrch gwenith na chynnyrch llefrith oherwydd alergedd. Roeddwn yn cael problemau stumog ofnadwy, ac ers bron i bum mlynedd bellach rydw i wedi torri'r rhain allan ac mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi.

Beth yw'r sialensiau mae hynny'n achosi i ti?

Mae bwyta allan yn medru bod yn 'chydig bach o strach - dwi wastad yn teimlo fel yr awkward customer! Dwi hefyd yn teimlo'n rêl niwsans pan yn mynd i dŷ rhywun am bryd o fwyd!

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Bîns neu ŵy ar dost.

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Oherwydd mod i wedi rhoi'r gorau i wenith a chynnyrch llefrith, dwi'n teimlo fy mod i yn llawer mwy parod i drio pethau newydd ac arbrofi efo gwahanol fwydydd ac ati. Roeddwn fwy neu lai yn byw ar basta a chaws cyn hynny!

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Mae hwn yn anodd - allai ddim dewis un! Top tri - cinio dydd Sul, tapas a spaghetti bolognese.

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta / goginio?

Heb drio dim byd rhy anghyffredin. Ychydig o flynyddoedd nôl yn Sbaen cawsom squid ink risotto. Daeth y platiad allan yn ddu fel glo…. Dwi dal ddim yn siŵr os wnes i fwynhau hwn neu beidio!

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Dwi'n meddwl bod unrhyw fath o ginio dydd Sul gyda theulu wastad yn sbeshial - pawb o gwmpas y bwrdd yn mwynhau a gwledda!

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Clirio wrth fynd yn dy flaen - does dim byd gwaeth na ll'nau llanast ar ddiwedd pryd o fwyd!

Efallai o ddiddordeb