大象传媒

Ysgolion i bwysleisio defnyddio'r Gymraeg cyn diffinio

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth

Fydd Cymraeg mewn ysgolion ddim yn cael ei diffinio'n iaith gyntaf neu ail iaith yn y dyfodol gyda mwy o bwyslais ar sicrhau bod disgyblion yn defnyddio'r iaith.

Daw cadarnhad o'r newid wrth i weinidogion gyhoeddi mwy o wybodaeth am y cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru.

Fe fydd yna ddisgwyliad hefyd fod ieithoedd rhyngwladol yn cael eu cyflwyno i blant ysgol gynradd pan fydd y diwygiadau'n cael eu cyflwyno o 2022 ymlaen.

Mae yna bryderon wedi bod am safon Cymraeg ail iaith a dywedodd adroddiad bum mlynedd yn 么l bod hi'n "unfed awr ar ddeg" i'r pwnc.

Pwyslais ar ddefnyddio iaith

Bwriad y Llywodraeth yw bod pob disgybl, beth bynnag yw statws ieithyddol yr ysgol, yn dilyn yr un cwricwlwm.

Fe fydd yna ddisgwyliadau gwahanol ar ddisgyblion yn dibynnu ar broffil iaith yr ysgol ar hyd un continwwm ieithyddol.

Yn 么l y llywodraeth, bydd mwy o bwyslais ar wella sgiliau disgyblion ac ar ddefnyddio'r iaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rachel Antoniazzi yn arwain darpariaeth Gymraeg Ysgol Gynradd Llysfaen - ysgol cyfrwng Saesneg yng Nghaerdydd

Dywedodd yr Athro Sioned Davies, awdur yr adroddiad beirniadol ar safonau Cymraeg ail iaith ei bod yn "falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwireddu argymhellion f'adroddiad".

"Mae sicrhau bod y Gymraeg yn bwnc statudol i bawb, ac ein bod yn cael gwared ar y term 'Cymraeg ail iaith' yn hollbwysig os ydym am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr", meddai.

Dywedodd y Llywodraeth bod gwaith ar droed i wella sgiliau athrawon gan gynnwys datblygu'r Cynllun Sabothol sy'n cynnig hyfforddiant Cymraeg dwys i athrawon a chynorthwywyr dysgu.

'Trafferth gwerthu'r syniad'

Mae Rachel Antoniazzi yn arwain darpariaeth Gymraeg Ysgol Gynradd Llysfaen - ysgol cyfrwng Saesneg yng Nghaerdydd.

Mae'r pwyslais meddai ar ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfer pwrpas, er enghraifft gofyn cwestiynau yn Gymraeg i gasglu data ar gyfer gwers mathemateg.

"Yn y gorffennol," meddai, "rydyn ni wedi cael trafferth, si诺r o fod fel llawer o ysgolion, i werthu'r syniad o ddysgu Cymraeg".

"Rydyn ni'n gwneud yn si诺r bod Cymraeg yn cael ei ddefnyddio nid dim ond mewn gwers sengl unwaith yr wythnos... rydyn ni'n sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd o ansawdd uchel i'w ddefnyddio.

"Ac yn barod ry'n ni'n gweld y plant yn cymryd llawer mwy o ddiddordeb a ry'n ni'n clywed mwy o Gymraeg o gwmpas yr ysgol ac yn y stafell ddosbarth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cymhwyster cyfunol enghreifftiol cyn gynted 芒 phosibl

Wrth groesawu symud at un continwwm ar gyfer dysgu'r Gymraeg, dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod un cymhwyster Cymraeg yn "hanfodol" i gyd-fynd 芒 hynny.

"Wedi'r cwbl", meddai Toni Schiavone, o Gymdeithas yr Iaith, "sut allan nhw roi'r gorau i addysgu'r Gymraeg fel ail iaith nawr ond eto parhau 芒'r cymhwyster Cymraeg ail iaith tan 2027?

"Dyna pam rydyn ni'n galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cymhwyster cyfunol enghreifftiol cyn gynted 芒 phosibl.

"Byddai hynny'n sicrhau bod ysgolion blaengar yn gallu braenaru'r tir nawr, er mwyn codi disgwyliadau a safonau yn y Gymraeg i bawb."

Cwricwlwm newydd

Dywedodd y Llywodraeth y byddai cymwysterau yn newid yn y pen draw.

Fe fydd Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol yn rhan o faes dysgu Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu - un o chwe maes dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm newydd.

Fe fydd ieithoedd rhyngwladol yn cynnwys ieithoedd tramor modern fel Ffrangeg ac Almaeneg ond hefyd "ieithoedd cymunedol, ieithoedd clasurol ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL)".

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud y "gallai roi pwyslais newydd ar amrywiaeth diwylliannol a ieithyddol yn fwy cyffredinol".

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Trwy osod y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr 芒 Ieithoedd Rhyngwladol yn y cwricwlwm, rydym yn agor y drws i ymagwedd newydd at ddulliau dysgu ieithoedd."

Mae'r undeb hefyd wedi galw ar y llywodraeth i ddarparu "rhagor o hyfforddiant [i athrawon], o wahanol fathau, ar fryder i wireddu hynny hefyd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kirsty Williams yw Ysgrifennydd Addysg Cymru

Yn 么l y llywodraeth fe fydd yna ddisgwyliad i blant brofi ieithoedd rhyngwladol yn gynharach, yn yr ysgol gynradd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Dyma'r newid mwyaf dramatig yn y ffordd y caiff ieithoedd eu haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru ers cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1988.

"Gwyddom y bydd angen amser i roi'r newidiadau hyn ar waith a dyna pam na fyddwn yn gweithredu'n fyrbwyll.

"Rydym yn ymrwymedig i roi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i addasu.

"Dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar y byddai swm o 拢24 miliwn yn cael ei neilltuo uwchlaw'r hyn sydd eisoes yn cael ei wario ar gefnogi'r cwricwlwm."